Cyhoeddi rhaglen ddogfen am siwrne perchnogion newydd CPD Wrecsam

Mae manylion rhaglen ddogfen am hanes Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn dod yn berchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cael ei chyhoeddi.
Fe wnaeth Nick Grad o FX Entertainment gadarnhau y bydd y rhaglen yn edrych ar hanes y clwb, y dref a’r perchnogion newydd – gyda’r manylion darlledu i gael eu cyhoeddi maes o law, yn ôl Golwg360.
Fe wnaeth Reynolds a McElhenney brynu’r clwb ym mis Chwefror.