Scott Baldwin yng ngharfan y Chwe Gwlad
24/01/2023
Mae Scott Baldwin wedi ymuno â charfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Daw hyn wedi i Dewi Lake gael ei anafu wrth chwarae i'w glwb, y Gweilch, ddydd Gwener.
Bydd gêm gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth yn erbyn Iwerddon ar 4 Chwefror, a hynny yn Stadiwm Principality.
Dyma fydd y gêm gyntaf gyda Warren Gatland fel yr hyfforddwr ers iddo ddychwelyd i gymryd yr awenau ar ôl i Wayne Pivac gael ei ddiswyddo ym mis Rhagfyr.
Mae Gatland eisoes wedi cadarnhau gweddill ei garfan ac mai Ken Owens fydd yn gapten Cymru ar gyfer y bencampwriaeth.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans