Menywod Seland Newydd yn ennill Cwpan y Byd
12/11/2022
Mae menywod Seland Newydd wedi ennill Cwpan y Byd rygbi gan drechu Lloegr o 34-31 o flaen torf o 45,000 yn Auckland fore dydd Sadwrn.
Fe sgoriodd Y Rhedyn Duon chwe chais i bump gan Loegr i ddal eu gafael ar y tlws am y chweched tro.
Fe sgoriodd y bachwr Amy Cokayne dri chais i Loegr ond ofer fu eu hymdrechion er roedd y sgôr yn agos tan y diwedd.
Bu’n rhaid i Loegr chwarae gyda 14 o chwaraewyr ar ôl i’r asgellwr Lydia Thompson dderbyn cerdyn coch wedi 18 munud am dacl beryglus.
Llun: Twitter/RWC