Cynhadledd COP27 yn dechrau
Mae'r gynhadledd newid hinsawdd COP27 yn dechrau ddydd Llun yn yr Aifft.
Bydd y gynhadledd, sydd yn cael ei chynnal yn Sharm el-Sheickh eleni yn rhoi cyfle i arweinwyr y byd drafod yr argyfwng newid hinsawdd.
Un o'r prif uchelgeisiau sydd wedi nodi gan y gynhadledd y llynedd yw ceisio cadw cynhesu byd eang o dan 1.5 gradd Celsius.
Dyma fydd y tro cyntaf i Rishi Sunak gynrychioli'r DU ar lwyfan ryngwladol ers iddo ddod yn Brif Weinidog Prydain fis diwethaf.
Fe fydd yn ymuno a nifer o arweinwyr eraill o Ewrop gan gynnwys Emmanuel Macron o Ffrainc, canghellor yr Almaen, Olaf Scholz a phrif weinidog newydd Yr Eidal, Giorgia Meloni.
Mae yna hefyd ddisgwyl i'r cyn prif weinidog Boris Johnson fynd i'r digwyddiad. Yn ôl nifer dyma wnaeth sbarduno tro pedol y llywodraeth i ddanfon Rishi Sunak i'r gynhadledd.