Seren 'Dirty Sanchez', Mike 'Pancho' Locke, wedi marw yn 47 oed
Mae teyrngedau wedi'u rhoi i Mike 'Pancho' Locke, un o sêr y gyfres deledu Dirty Sanchez, sydd wedi marw yn 47 oed.
Fe wnaeth ei deulu a'r brand dillad San Portablo gyhoeddi'r newyddion mewn datganiad ar y cyd ddydd Gwener, gan ei ddisgrifio fel "trysor Cymreig go iawn".
Daeth Pancho yn enw cyfarwydd yn ystod y 2000au ar ôl ymddangos yn y gyfres boblogaidd Dirty Sanchez ar MTV, oedd yn cynnwys grŵp o ffrindiau yn perfformio styntiau peryglus a chwarae triciau ar ei gilydd.
Mewn datganiad, dywedodd teulu Locke a San Portablo eu bod yn "hynod drist" o gyhoeddi ei farwolaeth.
Fe wnaethon nhw ei ddisgrifio fel "tad, mab, brawd, ewythr, ffrind, sglefrfyrddiwr, perfformiwr styntiau a dyn da ym mhob ffordd".
"Roedd yn drysor Cymreig go iawn, ac yn Frenin San Portablo," meddai'r datganiad.
"Rydyn ni'n siŵr y bydd ei ddisgleirdeb yn parhau i oleuo'r byd, ymhell ac agos.
"Fe wnaeth fyw bywyd anhygoel, ac roedd yn goleuo'r byd gyda'i swyn."
Ychwanegodd y datganiad y byddai siop San Portablo ym Mhort Talbot ar gau ddydd Gwener.
"Gorffwys mewn heddwch, frawd. Ni fydd dy chwedl byth yn dod i ben. Bydd hi ond yn mynd o nerth i nerth."
'Yn glyfar, yn ddoniol ac yn ffyddlon'
Mae'r digrifwr Sandro Ford hefyd wedi rhoi teyrnged i Pancho, gan ddweud ei fod wedi ei gefnogi ar ddechrau ei yrfa.
"Newyddion torcalonnus am farwolaeth Mike (Pancho)," meddai mewn neges ar Facebook.
"Efallai fod pobl yn ei adnabod o'i waith ar y teledu, ond roedd yn llawer mwy na hynny. Roedd yn glyfar, yn ddoniol iawn ac yn ffyddlon."
Dywedodd Ford fod Pancho a Nigel wedi ei gefnogi pan oedd yn dechrau perfformio comedi, gan annog pobl i fynychu ei sioeau yn y Surge, y Red Lion ac Afan Ales.
"Doedden nhw ddim yn disgwyl unrhyw beth yn ôl. Roedden nhw'n gwneud hynny am eu bod nhw eisiau gwneud hynny ac am eu bod nhw'n credu ynof i," meddai.
"Roedd hefyd yn teithio gyda fi i nosweithiau meicroffon agored, dim ond i fy ngwylio'n methu'n llwyr, ac yna chwerthin am y peth ar y ffordd adref."
Anfonodd Ford ei gariad at deulu Pancho, Nigel a phawb yn San Portablo, gan ychwanegu: "Gorffwys mewn heddwch, frawd."
Dirty Sanchez
Roedd Pancho yn un o bedwar aelod y gyfres Dirty Sanchez, ochr yn ochr â Mathew Pritchard, Lee Dainton a Dan Joyce.
Dechreuodd y gyfres ar MTV yn 2003, gan ddod yn boblogaidd yn y DU a thu hwnt.
Roedd y gyfres yn aml yn cael ei chymharu â'r rhaglen Americanaidd Jackass, ac fe arweiniodd ei llwyddiant at ryddhau Dirty Sanchez: The Movie yn 2006.
Roedd Pancho hefyd yn ymddangos ochr yn ochr â Mathew Pritchard yn y gyfres Balls of Steel ar Channel 4, lle'r oedd y ddau'n cael eu hadnabod fel y Pain Men.
Yn fwy diweddar, roedd yn bartner busnes i Nigel Hunt yn San Portablo, brand dillad o Bort Talbot sy'n dathlu diwylliant a threftadaeth y dref.
Nid oes manylion am amgylchiadau ei farwolaeth wedi'u cyhoeddi.