Rhybudd i’r cyhoedd gadw draw o dân ar bromenâd Llandudno
Llandudno, Conwy
Mae’r cyhoedd wedi cael rhybudd i gadw draw wrth i'r gwasanaethau brys ddelio gyda thân ar y promenâd yn Llandudno, Sir Conwy.
Dywedodd gwasanaeth Tân ac Achub Golgedd Cymru brynhawn dydd Sul eu bod nhw’n delio gyda’r digwyddiad mewn adeilad yno.
Dywedodd y gwasanaeth: “Ar hyn o bryd rydym yn bresennol mewn tân adeilad ar y promenâd yn Llandudno.
"Rydym yn cynghori pobl i gadw draw o'r ardal tra bod y gwasanaethau brys yn delio â'r digwyddiad."