Reform: ‘Mi wnawn ni bleidleisio gyda Plaid Cymru i atal newidiadau i ffermio’
Mae un o ASau newydd Reform UK wedi dweud y byddai’n fodlon pleidleisio gyda Phlaid Cymru er mwyn atal newidiadau i ffermio yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn y broses o gyflwyno Cynllun Ffermio Cynaliadwy, system a fydd yn cynnig incwm sylfaenol i ffermydd yng Nghymru ar ôl Brexit.
Dechreuodd y newidiadau ddod i rym yn gynharach eleni ar ôl i’r Llywodraeth ddiwygio’r cynllun gwreiddiol yn sgil beirniadaeth hallt gan ffermwyr.
Roedd y cynnig blaenorol wedi’i feirniadu’n hallt am gynnwys amod y byddai’n rhaid i bob fferm blannu coed ar o leiaf 10% o’r tir.
Wrth ymddangos ar raglen Politics Wales ddydd Sul, galwodd yr AS newydd, Llŷr Powell, am bleidlais ar y newidiadau.
“Fe ddywedon nhw eu bod nhw'n mynd i newid pethau'n wahanol a chanolbwyntio ar gymunedau yma,” meddai.
“Mae angen i ni fod yn siarad am y Gymru go iawn – ddim am systemau etholiadol gwahanol, a phwy a ŵyr beth maen nhw'n mynd i fod yn obsesiynu drosto i lawr yno y tro hwn.
“Rwy'n credu bod cymunedau gwledig wedi anfon neges atom ni. Rwy'n bryderus iawn ar hyn o bryd am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy'n dod i rym yn ystod y dyddiau nesaf.
“Pe bai Plaid yn driw iddyn nhw eu hunain ac yn dweud eu bod nhw'n gwrthwynebu hyn, gadewch i ni roi stop arno.
“Byddwn yn pleidleisio gyda nhw ar hynny, os allwn ni amddiffyn ffermwyr a rhoi'r sicrwydd hwnnw iddyn nhw, dyna ni.
“Mae gennym ni rywbeth y gallwn ni weithio arno, ond ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn clywed hynny gan Blaid Cymru.”
Fe wnaeth Plaid Cymru addo yn eu maniffesto i ddatblygu Strategaeth Fwyd Genedlaethol newydd i Gymru i gryfhau cadwyni cyflenwi bwyd.
Yn ei maniffesto, fe wnaeth Reform addo diwygio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i “ganiatáu i ffermwyr ffermio, amddiffyn y ffordd wledig o fyw, a rhoi ffermwyr Cymru a'n cymunedau gwledig wrth wraidd ein prosesau gwneud penderfyniadau”.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Blaid Cymru am ymateb.