Pêl-droediwr o'r Uwch Gynghrair yn cael ei stopio gan yr heddlu ar ôl cael ei weld gyda bwa saeth
Cafodd swyddogion heddlu eu hanfon i ardal ger Newcastle ar ôl i bêl-droediwr o Uwch Gynghrair Lloegr gael ei weld yn cario bwa a saethau ar lwybr gwledig, yn ôl adroddiadau.
Fe gafodd cefnwr Newcastle United, Amar Dedic, ei stopio gan yr heddlu mewn cerbyd, yn ôl y Daily Mail, a oedd y cyntaf i adrodd am y digwyddiad.
Roedd aelod o'r cyhoedd wedi cysylltu â swyddogion ar ôl gweld dau ddyn gyda'r arf ger cronfa ddŵr ychydig filltiroedd y tu allan i'r ddinas.
Cafodd nifer o unedau heddlu eu hanfon i ardal Harlow Hill, cyn i Dedic a ffrind iddo gael eu stopio.
Fe ddaeth swyddogion i'r casgliad yn ddiweddarach nad oedd unrhyw fygythiad i'r cyhoedd, ac mai at ddibenion hamdden yn unig yr oedd yr arf yn cael ei ddefnyddio.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Northumbria: "Ychydig ar ôl 13:55 ddydd Mercher, fe gawson ni adroddiad am ddau ddyn yn cario bwa a saethau wrth gerdded ar hyd llwybr ger y gronfa ddŵr ar Military Road yn ardal Harlow Hill.
"Fe aeth swyddogion i'r ardal ac fe wnaethon nhw stopio cerbyd yn ardal Darras Hall, gan gymryd bwa a saethau.
"Ar hyn o bryd, ein dealltwriaeth yw eu bod yn cael eu defnyddio at ddibenion hamdden ac nad oedd unrhyw fygythiad i'r cyhoedd."
Mae ymholiadau i amgylchiadau'r digwyddiad yn parhau.
Fe ymunodd y chwaraewr rhyngwladol 24 oed o Bosnia a Herzegovina â Newcastle United o Benfica yn ystod yr haf, mewn cytundeb gwerth £29.5 miliwn yn ôl adroddiadau.