Cymru'n colli yn erbyn Iwerddon yn y Chwe Gwlad

Iwerddon v Cymru

Colli fu hanes Cymru o 33-12 yn erbyn Iwerddon yn y Chwe Gwlad yn Belfast nos Sadwrn.

Roedd Cymru'n chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn y bencampwriaeth ar ôl colli yn erbyn yr Alban, Ffrainc a Lloegr.

Y tîm cartref aeth ar y blaen pan groesodd yr wythwr Aoife Wafer am gais ar ôl 12 munud gyda'r maswr Dannah O'Brien yn trosi. Iwerddon 7-0 Cymru.

Ond, yn chwarae yn y crysiau gwynion, fe darodd Cymru nôl wedi 22 munud pan groesodd yr ail reng Georgia Evans am gais yn dilyn cyfnod o bwyso. Fe drosodd y mewnwr Keira Bevan. Iwerddon 7-7 Cymru.

Saith munud yn ddiweddarach fe groesodd yr asgellwr Béibhinn Parsons am gais dros Iwerddon. Iwerddon 12-7 Cymru.

Gyda'r ddau dîm yn cicio'n wael o'r llaw a gyda'r cloc yn y coch fe groesodd Iwerddon am drydydd cais gan y blaenasgellwr Brittany Hogan a droswyd gan O'Brien. Y sgôr ar yr egwyl: Iwerddon 19-7 Cymru.

Er i Iwerddon golli ei bachwr Cliodhna Moloney, wnaeth dderbyn cerdyn melyn, fe ddaeth y tîm cartref yn agos i ychwanegu at eu sgôr wedi 48 munud. Ond fe lwyddodd amddiffyn Cymru eu rhwystro.

Fodd bynnag roedd cyflymdra chwarae Iwerddon yn drech na Chymru ar ôl 55 munud pan sgoriodd Wafer ei hail gais hi a phedwerydd ei thîm gyda O'Brien yn trosi eto. Iwerddon 26-7 Cymru.

Roedd yn ymddangos fod Iwerddon wedi ymestyn eu blaenoriaeth ar ôl 65 munud pan groesodd yr eilydd Neve Jones y llinell gais ond cafodd y cais ei ddiddymu am rwystro gan flaenwyr y tîm cartref. 

Ond nid oedd llawer o fflach yn chwarae Cymru ac nid oedd fawr o arwyddion y bydden nhw'n gallu taro nôl beth bynnag.

Er fod y fuddugoliaeth y tu hwnt iddyn nhw fe ddaliodd Cymru ati ac fe ddaeth cais i'r asgellwr Jamine Joyce a wnaeth yn dda i ddal cic letraws y maswr Lleucu George.

Fe lwyddodd Iwerddon i sgorio trosgais yn eiliadau ola'r gêm drwy Brittany Hogan i ymestyn maint eu buddugoliaeth.

Y sgôr terfynol: Iwerddon 33-12 Cymru.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.