Caerffili: Carchar am oes i ddyn am drywanu bachgen 17 oed i farwolaeth
Mae dyn o Gaerdydd wedi ei ddedfrydu i garchar am oes, ar ôl cael ei ddyfarnu'n euog o lofruddio bachgen 17 oed mewn pentref yn Sir Caerffili.
Cafodd Georgie Myers, 19 oed, sydd ddim â chyfeiriad sefydlog, ei ddyfarnu'n euog o drywanu a lladd Tristan Kerr mewn cartref ar Stryd Lower Francis yn Abertridwr fis Chwefror.
Roedd ei gyd-ddiffynnydd, Connor Palfrey, 25 oed, o Deras Aberfawr, Abertridwr, yn ddieuog o lofruddiaeth, ond yn euog o ddynladdiad.
Cafodd ddedfryd o 16 mlynedd o garchar.
Cafodd dyn a dynes hefyd eu dyfarnu’n ddieuog o lofruddiaeth yn ystod yr achos yn Llys y Goron Casnewydd, a wnaeth bara pum wythnos.
Clywodd y llys bod Mears a Palfrey wedi teithio i ardal Caerffili ar ddydd Iau 5 Chwefror i gasglu dyledion yn ymwneud â gwerthu cyffuriau, cyn teithio i Abertridwr.
Aeth Palfrey i mewn i’r adeilad gyda darn o bren, wrth i Mears ei ddilyn gyda chyllell yn ei feddiant.
Fe wnaeth y ddau ymosod ar Tristan Kerr dros gyfnod o lai na dau funud.
Llwyddodd Mr Kerr i ddianc, ond fe ddisgynnodd ar y stryd gyfagos.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ond daeth cadarnhad yn ddiweddarach bod Mr Kerr wedi marw yn y fan a’r lle o ganlyniad i’w anafiadau.
Llwyddodd Mears a Palfrey i ffoi o’r ardal ond cafodd y ddau eu harestio’n ddiweddarach gan swyddogion arfog Heddlu Gorllewin Mercia, yn ardal Henffordd.
'Dinistriol'
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Steven Thomas, a arweiniodd yr ymchwiliad:
“Mae’r ddedfryd hon yn nodi diwedd proses hir ac anodd dros ben i sicrhau cyfiawnder i Tristan a’i anwyliaid.
“Mae’n ein hatgoffa’n glir o effaith ddinistriol troseddau cyllyll a chyflenwi cyffuriau ar ein cymunedau.
“Dim ond 17 oed oedd Tristan, a dylai ei fywyd cyfan fod wedi bod o’i flaen. Yn hytrach, fe wnaeth cyllell ddod â’i fywyd i ben yn sydyn ac mewn ffordd ddinistriol.
“Ni ddylai unrhyw deulu orfod profi’r hyn y mae teulu Tristan wedi bod drwyddo, ac mae fy meddyliau’n parhau gyda nhw.”
Cafodd teyrnged i Tristan Kerr hefyd ei chyhoeddi gan y teulu:
“Roedd Tristan yn fab, yn gefnder, yn frawd, yn nai, yn ŵyr ac yn ffrind annwyl iawn, a oedd yn dod â goleuni, chwerthin a hapusrwydd i bob ystafell y byddai’n camu iddi.
“Roedd ganddo gymaint o gariad i’w roi, a chymaint o freuddwydion ac uchelgeisiau o’i flaen na fydd fyth yn cael cyfle i’w gwireddu.”
Ychwanegodd: “Ni fydd unrhyw gosb, waeth pa mor llym, fyth yn dod ag e yn ôl nac yn dadwneud y boen a’r dinistr y mae ei golli wedi’u hachosi.
“Byddwn ni’n cynnal yr atgofion am Tristan gyda ni drwy bob pen-blwydd, pob Nadolig a phob carreg filltir deuluol, gan ddymuno y gallai fod yno i’w rhannu gyda ni.
“Mae wedi mynd yn llawer rhy fuan, wedi’i amddifadu o oes o gyfleoedd, wedi’i garu y tu hwnt i eiriau, ac yn cael ei golli’n fwy nag y byddai fyth yn ei wybod.
“Yn 17 oed am byth, ein Tristan ni am byth.”
Cafodd Georgie Myers ddedfryd oes gyda lleiafswm o 20 mlynedd a chwe mis yn y carchar.
Cafodd Connor Palfrey ddedfryd o 16 mlynedd gyda thrwydded estynedig o chwe blynedd.
Llun: Georgie Myers a Connor Palfrey (Heddlu Gwent)