Yr Uchel Lys yn gwrthod cais ymgyrchwyr i atal cau ysgol yn Sir Gâr
19/06/2026Mae ymgyrchwyr sydd yn ceisio atal ysgol wledig rhag cau yn Sir Gâr wedi clywed bod eu cais am adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys wedi cael ei wrthod.
Bwriad y cyngor yw rhoi’r gorau i gynnal Ysgol Gynradd Meidrim ar 31 Rhagfyr 2026, ac i wneud darpariaeth i’r disgyblion hynny sy’n byw yn nalgylch presennol yr ysgol honno allu mynychu Ysgol Hafodwenog neu Ysgol Griffith Jones.
Roedd y Barnwr Jarman KC wedi cytuno i ystyried her ar ddwy sail, sef nad oedd y penderfyniad yn cydymffurfio â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru 2018 ('y Cod').
Y sail gyntaf oedd bod y cyngor wedi symud ymlaen at y cam ymgynghori heb roi ystyriaeth fanwl iawn i’r mater ar ôl i bob dewis rhesymol arall gael ei ystyried ac ar ôl cynnal asesiad clir o’u rhinweddau.
Yr ail sail oedd na roddwyd cyfle teg i gorff llywodraethu Ysgol Meidrim gael ei glywed ynghylch y posibilrwydd o gau’r ysgol ac na ofynnwyd iddo gyflwyno unrhyw ddewisiadau amgen pellach.
Ar ôl ystyried y mater, penderfynodd y Barnwr Jarman fod y Cod Trefniadaeth Ysgol yn caniatáu i gynigion amgen gael eu hystyried yn ystod y broses ymgynghori, sy’n golygu nad oedd y broses ei hun yn “ddiffygiol mewn ffordd dyngedfennol”.
Yn ôl y Barnwr, doedd yna ddim anhegwch o ran y broses. Dywedodd y Barnwr y gall y broses o gau barhau, ac mae angen i’r cyngor ystyried pob opsiwn.
Ymestyn y cyfnod gwrthwynebu
Brynhawn Gwener, dywedodd y cyngor sir eu bod bellach wedi diwygio’r hysbysiad statudol a gyhoeddwyd ynghylch y bwriad i gau Ysgol Meidrim, dri diwrnod ar ôl cyhoeddi’r un gwreiddiol.
Roedd yr hysbysiad gwreiddiol yn cynnwys Ysgol Bancyfelin fel un o’r tair ysgol a fyddai’n derbyn disgyblion yn sgil cau Ysgol Gynradd Meidrim.
Mae’r hysbysiad newydd yn cynnwys Ysgol Hafodwenog, Trelech, a Ysgol Griffith Jones, Heol yr Orsaf, San Clêr, yn unig.
Mae dalgylch Ysgol Bancyfelin wedi cael ei gynnwys yn y cynigion ar gyfer disgyblion yn y dyfodol, o 1 Ionawr 2027 ymlaen.
Mae’r cyngor wedi ymestyn y cyfnod gwrthwynebu hyd at 17 Gorffennaf.
‘Dau ddewis’
Wrth ymateb, dywedodd Ffred Ffransis ar ran rhanbarth Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith ei fod yn “gwerthfawrogi fod yr ysgol gyfan a’r gymuned yn sefyll yn gryf yn eu gwrthwynebiad i gau’r ysgol”.
"Nodwn fod y Barnwr wedi gwneud sylwadau beirniadol iawn o Gyngor Sir Gâr o ran diffyg ymwneud â'r llywodraethwyr ac nad ystyriwyd eto yr opsiynau amgen heblaw am gau'r ysgol, ond nad yw'r dystiolaeth yn ddigon i gyrraedd trothwy uchel iawn ymyrraeth gyfreithiol, gan fod cyfle o hyd i'r Cyngor roi ystyriaeth ddifrifol i'r opsiynau amgen wrth ystyried gwrthwynebiadau i'r Hysbysiad Cau," meddai.
"Mae dau ddewis felly gan y Cyngor. Gall barhau i ddiystyru barn llywodraethwyr a'r gymuned leol, rhoi ystrydeb am "ddysgu gwersi at y dyfodol" a dal ymlaen gyda'r bwriad o geisio cau'r ysgol.
"Neu gall nodi'r feirniadaeth a chychwyn cyfnod newydd trwy dynnu nol yr hysbysiad i gau'r ysgol a mynd ati i drafod yn syth gyda llywodraethwyr eu cynlluniau cyffrous i ddatblygu Hyb Cymunedol ac ysgol ochr yn ochr, allai fod yn gynllun peilot fyddai'n sail i adfywiad ein cymunedau gwledig Cymraeg."