Y Llais yn dychwelyd am drydedd gyfres yn 2027
Bydd cyfres Y Llais yn dychwelyd i S4C am drydedd gyfres yn 2027.
Fersiwn Gymraeg o'r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd, a fformat ITV Studios, The Voice yw Y Llais, sy’n cael ei gynhyrchu gan Boom Cymru, rhan o ITV Studios.
Y seren drag Carrie Sauce enillodd y gyfres y llynedd, wedi i Rose Datta o Gaerdydd ennill y gyfres gyntaf yn 2025.
Dyw S4C heb gyhoeddi os mai'r un hyfforddwyr fydd yn dychwelyd ar gyfer y gyfres nesaf.
Ychwanegodd y sianel y bydd mwy o wybodaeth am y drydedd gyfres yn cael ei chyhoeddi'n fuan.
Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Dwi wrth fy modd yn clywed y cystadleuwyr yn swyno a syfrdanu gyda’u lleisiau bendigedig bob blwyddyn ac mae’n bleser cael cyhoeddi bod Y Llais yn ôl am gyfres arall.
"Mae’n dda gweld sut mae’r gyfres wedi llwyddo apelio at gynulleidfaoedd iau a siaradwyr newydd a bod gymaint o’r gwylio yn digwydd ar ein platfformau digidol. Dwi’n edrych ymlaen i weld pwy fydd y nesaf i wynebu’r cadeiriau coch – pwy a ŵyr, efallai mai chi fydd wrthi.”
Gall unrhyw un sydd eisiau cystadlu yn y Y Llais eleni gwneud hynny trwy lenwi’r ffurflen gais yma: https://www.s4c.cymru/en/entertainment/y-llais/page/y-llais.