Sir Benfro: Dyn 22 oed wedi marw wedi gwrthdrawiad

18/06/2026
Pont Canaston

Mae dyn 22 oed wedi marw wedi gwrthdrawiad yn Sir Benfro ddydd Mercher.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A4075 rhwng Pont Canaston a Yerbeston, a ddigwyddodd am tua 18.20.

Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys Kia Sorento llwyd a beic modur Yamaha gwyn.

Cafodd dyn 22 oed, oedd yn gyrru'r beic modur, a dynes 22 oed, oedd yn teithio ar gefn y beic eu cludo i’r ysbyty, le bu farw'r dyn yn ddiweddarach.

Mae’r perthnasau agosaf wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Ni chafodd gyrrwr y Kia Sorento, dyn 60 oed, anafiadau.

Mae’r ffordd yn parhau ar gau er mwyn cynnal ymchwiliad i’r gwrthdrawiad, ac mae modurwyr yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal a dod o hyd i lwybrau eraill, meddai'r heddlu brynhawn dydd Iau.

Byddai swyddogion sy’n ymchwilio yn hoffi siarad ag unrhyw fodurwyr oedd yn teithio ar hyd yr A4075 ar y pryd, neu unrhyw un sydd â chamera dashfwrdd yn eu cerbydau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.