Derwen enwog Robin Hood yn Nottingham ‘wedi marw’
Mae arbenigwyr wedi dweud eu bod nhw’n credu bod derwen hynafol enfawr sydd â chysylltiad â chwedl Robin Hood wedi marw.
Mae’r Major Oak yng nghanol Coedwig Sherwood yn Sir Nottingham wedi bod yn dirywio ers rhai blynyddoedd, yn ôl elusen yr RSPB, sy’n rheoli’r goedwig.
Y gredy yw ei bod wedi byw am 1,200 o flynyddoedd.
Dywedodd yr elusen gadwraeth fod y goeden wedi cael ei heffeithio gan gyfnodau diweddar o dywydd poeth eithafol a sychder wedi eu sbarduno gan newid hinsawdd.
Mae’r pridd o amgylch y goeden hefyd wedi cael ei gywasgu’n ddifrifol gan draed miliynau o ymwelwyr yn y gorffennol, gan ei gwneud hi’n anos i law dreiddio i’r pridd ac i’r system wreiddiau amsugno’r maeth sydd ei angen arni.
Mae profion diweddar yn dangos bod y pridd mor galed â choncrit mewn rhai mannau.
Diffyg dail
Daeth gwyddonwyr i’r casgliad ei bod wedi marw ar ôl iddi fethu â chynhyrchu unrhyw ddail y gwanwyn hwn.
Bydd y goeden, sy’n enwog ledled y byd oherwydd straeon ei bod wedi rhoi cysgod i’r lleidr chwedlonol Robin Hood, yn parhau i sefyll yn y goedwig fel cofeb, meddai’r RSPB.
Dywedodd Hollie Drake, uwch-reolwr safle RSPB Sherwood Forest, fod methiant y goeden i gynhyrchu dail eleni wedi “torri calon pawb”.
Ond dywedodd: “Rydyn ni’n gwybod y bydd gan y Major Oak etifeddiaeth barhaol, yn bennaf oll oherwydd ei bod wedi ei chysylltu mor annatod â Robin Hood a Choedwig Sherwood.
“Ond y tu hwnt i’w threftadaeth ddiwylliannol, bydd y Major Oak yn parhau i ddarparu cynefin pwysig i fywyd gwyllt, gan ein hatgoffa pam mae’r coed rhyfeddol hyn mor bwysig a pham bod angen eu diogelu nhw ar gyfer y dyfodol.”