Carcharu cyn-ficer am feddu ar ddelweddau anweddus o blant
Mae cyn-ficer wedi ei garcharu am dros flwyddyn am feddu ar ddelweddau anweddus o blant ar ôl dweud nad oedd ganddo “ddim byd arall i’w wneud”.
Daeth yr heddlu o hyd i’r delweddau gwaharddedig o blant yn ei feddiant yn ystod ymweliad dirybudd.
Roedd Andrew Robinson, o Dal-y-bont ar Wysg, Aberhonddu, eisoes wedi ymddangos gerbron y llysoedd ym mis Ebrill 2025, pan gyfaddefodd ei fod wedi meddu ar ddelweddau anweddus o blant.
Wrth ei ddedfrydu y llynedd, cafodd y dyn 77 oed ddedfryd o garchar wedi ei gohirio, gorchymyn i gofrestru ar y gofrestr troseddwyr rhyw, a gorchymyn atal niwed rhywiol.
Fel troseddwr rhyw cofrestredig, roedd Robinson yn destun ymweliadau dirybudd gan yr heddlu.
Ddydd Mawrth, 9 Mehefin 2026, aeth ditectifs i gyfeiriad cartref Robinson er mwyn cynnal gwiriad dirybudd o’i ddyfeisiau digidol.
Fe ddaethon nhw o hyd i liniadur agored a oedd yn dangos delweddau wedi eu hanimeiddio o blant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol gydag oedolion.
Pan gafodd ei herio gan y ditectif, dywedodd Robinson: “Doeddwn i ddim yn meddwl bod y rhain yn anghyfreithlon.”
Ar ôl iddo gael ei arestio, dywedodd: “Does gen i ddim byd arall i’w wneud.”
Cafodd Robinson ei gyhuddoo feddu ar ddelwedd waharddedig o blentyn, ac fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Merthyr drannoeth, 10 Mehefin.
Plediodd Robinson yn euog i’r cyhuddiad yn ei erbyn ac i dorri ei orchymyn atal niwed rhywiol.
Fe gafodd ei garcharu’n syth am 12 mis a 12 wythnos, a gorchymyn iddo dalu dirwy o £187.
Dywedodd Ditectif Ringyll Paula Rutherford: “Honnodd Robinson nad oedd yn gwybod bod meddu ar ddelweddau animeiddiedig o blant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol yn anghyfreithlon.
“Mae’r gyfraith yn glir, ac roedd ymddygiad Robinson nid yn unig yn anghyfreithlon, ond yn gwbl anfoesol ac, a dweud y gwir, yn peri gofid mawr.
“Efallai bod pobl yn meddwl nad oes dioddefwyr ‘go iawn’ mewn troseddau o’r math yma, ond mae’r weithred o wylio delweddau o’r fath arlein ynddi ei hun yn bwydo’r galw i gynhyrchu mwy o ddelweddau niweidiol.
“Gall gwylio delweddau anweddus fod yn gam cyntaf yn aml tuag at gyflawni troseddau rhywiol difrifol yn erbyn plant, ac mae dyletswydd arnom ni i amddiffyn plant rhag niwed.”