Pryderon y bydd naw o bob 10 o ferlod parc cenedlaethol yn cael eu difa

Merlyn

Mae ymgyrchwyr yn pryderu y bydd naw o bob deg o ferlod Parc Cenedlaethol Dartmoor yn cael eu difa oherwydd rheolau amgylcheddol newydd.

Mae merlod lled-wyllt wedi crwydro Dartmoor ers mwy na 3,500 o flynyddoedd.

Ond mae disgwyl iddyn nhw gael eu cynnwys am y tro cyntaf o fewn cyfyngiadau newydd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Natural England.

Mae cynlluniau amgylcheddol wedi cyfyngu ar faint o dda byw sy’n cael pori ar y comin ers 1994, ond nid yw’r merlod erioed wedi cael eu heffeithio.

Mae disgwyl i’r cynigion newydd ofyn i ffermwyr sy’n byw ar y comin i ddifa 75% o’u da byw, ac mae pryder y bydd ffermwyr yn dewis difa'r merlod er mwyn gwneud hynny.

Mae deiseb i amddiffyn merlod Dartmoor rhag y cynlluniau newydd wedi ei lofnodi mwy na 17,000 o weithiau.

Dywedodd Charlotte Faulkner, cadeirydd grŵp Friends of the Dartmoor Hill Pony wrth bapur newydd y Telegraph nad oedd y merlod wedi cael eu cynnwys yn y ffigurau dwysedd pori ar gyfer gwartheg a defaid yn y gorffennol. 

“Nawr maen nhw’n cael eu cynnwys,” meddai.

“Felly mae dau beth yn digwydd. Mae’n rhaid i ffermwyr leihau eu da byw 75%, ac mae’n rhaid iddyn nhw gynnwys merlod. 

“Felly mae’n rhaid i’r merlod gystadlu â da byw masnachol - a nhw fydd y cyntaf i fynd bob tro.

“Fe fyddai yna eironi mawr os, yn enw ail-wylltio (rewilding), rydyn ni’n colli’r un creadur gwyllt sydd gyda ni.

“Mae diffyg cydgysylltu rhwng Natural England a DEFRA. Ar un rhestr maen nhw mewn perygl. Ar y rhestr arall, mae angen saethu 75 y cant ohonyn nhw.”

Dywedodd llefarydd ar ran Defra: “Yn unol â’r adolygiad annibynnol o reoli safleoedd gwarchodedig ar Dartmoor, rydym yn gweithio gyda phartneriaid, gan y Dartmoor Hill Pony Association, i helpu i sicrhau ein bod yn cynnal niferoedd y merlod lled-wyllt ar y Waun am genedlaethau i ddod.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.