Diswyddo cyn-reolwr Caerdydd wedi un gêm yn unig o Gwpan y Byd
Mae rheolwr Tîm Pêl-droed Tunisia, Sabri Lamouchi, wedi ei ddiswyddo ar ôl i'w dîm golli 5-1 yn erbyn Sweden yng Nghwpan y Byd fore Llun.
Roedd Mr Lamouchi yn rheoli Clwb Pêl-droed Caerdydd yn 2023 ar ôl ymuno â'r Adar Gleision ym mis Ionawr y flwyddyn honno.
Roedd wrth y llyw am 18 gêm bryd hynny, gan ennill chwech ohonyn nhw, cyn iddo gael ei ddiswyddo.
Cafodd Tunisia eu trechu gan Sweden sy'n cael eu rheoli gan gyn-reolwr Abertawe, Graham Potter, a dreuliodd dymor gyda'r Elyrch yn 2018.
Sgoriodd cyn-ymosodwr Abertawe Viktor Gyokeres drydedd gôl Sweden yn eu buddugoliaeth gyfforddus.
Cyhoeddodd Ffederasiwn Pêl-droed Tunisia ddiswyddiad Sabri Lamouchi ar eu cyfrif Instagram.
“Mae cytundeb wedi ei gyrraedd yn swyddogol i ddiswyddo’r hyfforddwr Sabri Lamouchi,” meddai’r datganiad.
“Mae cynlluniau ar y gweill i benodi Mondher Kebaier yn hyfforddwr dros dro y tîm cenedlaethol.”
Cafodd Lamouchi ei benodi yn rheolwr Tunisia ym mis Ionawr, a bu’n gyfrifol am ddim ond pum gêm.
Daeth ei unig fuddugoliaeth o 1-0 dros Haiti, ond roedd ei gyfnod byr wrth y llyw hefyd yn cynnwys colli 5-0 yn erbyn Gwlad Belg.
Yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau yn Tunisia, roedd uwch swyddogion wedi gofyn am gyfarfod brys gyda Sabri Lamouchi ar ôl y golled drom yng Nghwpan y Byd fore Llun, er mwyn trafod ei ddyfodol a chyfeiriad y tîm.
Bydd Tunisia yn wynebu Japan ddydd Sadwrn yn yr un stadiwm yn Guadalajara lle collon nhw yn erbyn Sweden cyn gorffen eu gemau grŵp yn erbyn yr Iseldiroedd yn Kansas City.