Cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2026

Rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2026

Mae'r 12 llyfr sydd ar restr fer Cymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni wedi'u cyhoeddi.

Mae pedwar categori yn y ddwy iaith - Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc - gydag un o’r enillwyr categori yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr a hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn. 

Bydd yr enillwyr Cymraeg a Saesneg yn cael eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo a gaiff ei chynnal yn Galeri Caernarfon ar 9 Gorffennaf.

Bydd pob enillydd categori yn derbyn £1,000 yr un, gyda £3,000 yn ychwanegol i enillwyr y brif wobr yn y ddwy iaith. 

Y rhestr fer Gymraeg yn llawn:

Gwobr Ffuglen 

Dau, Bethan Nantcyll (Gwasg y Bwthyn)

Hiraeth Neifion, Simon Chandler (Gwasg Carreg Gwalch)

Tri, Sonia Edwards (Gwasg y Bwthyn)

Gwobr Farddoniaeth 

Trochi, Carwyn Eckley (Gwasg Carreg Gwalch)

Mae, Mererid Hopwood (Barddas)

Chwarter Eiliad, Jo Heyde (Barddas)

Gwobr Ffeithiol Greadigol 

Lobsgows – Cariad y Cymry at Fwyd, Ruth Richards (Gwasg Carreg Gwalch)

Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni – Ar Lwybrau 'Atgof' Prosser Rhys, Iestyn Tyne (Gwasg y Bwthyn)

Ynysoedd Gobaith – Mentrau a Syniadau Iwtopaidd yng Nghymru'r Ugeinfed Ganrif, Llion Wigley (Gwasg Prifysgol Cymru)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc 

Anfarwol, Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)

Gerwyn Gwrthod a'r Llyfr Does Neb yn Cael Ei Ddarllen, Sion Tomos Owen (Atebol)

Y Cae Ras, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

Y beirniaid ar y panel Cymraeg eleni oedd Ifor ap Glyn, Gwenno Ffrancon, Dafydd Lennon a Sioned Puw Rowlands.

Dywedodd Gwenno Ffrancon: "Bu’n fwynhad pur darllen y gweithiau ffuglen Cymraeg a gyhoeddwyd eleni a phwyso a mesur yr amrywiaeth eang o gyfrolau a ddaeth i law. 

"Gyda’r byd yn gwallgofi bron yn ddyddiol, roedd hi’n hyfryd cael dianc i fydoedd cyfarwydd ac anghyfarwydd a mwynhau doniau a ffrwyth dychymyg yr awduron."

Llun: Llenyddiaeth Cymru

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.