Y côr yn Llundain sy'n gobeithio hybu'r Gymraeg
Y côr yn Llundain sy'n gobeithio hybu'r Gymraeg
Mae Cymry wedi ymgartrefu yn Llundain ers canrifoedd ac maen nhw'n awyddus i barhau i gynnal y cysylltiad rhwng prifddinas Lloegr a Chymru.
Ac un yr un modd ac yng Nghymru mae caredigion yr iaith yn gobeithio troi’r trai ar ei dirywiad.
Symbol o fwrlwm y Gymraeg sydd yn Llundain yw Côr Meibion Gwalia. Cafodd y côr ei sefydlu ym 1967 gan gynnig cyfle i Gymry Llundain ymarfer eu hiaith a phrofi diwylliant Cymru.
Mae Madoc Batcup yn aelod ffyddlon o’r côr ac wedi profi effaith y mae’r côr yn cael ar yr aelodau.
“Mae pethau fel y côr yma yn Llundain yn bwysig, bwysig iawn i roi cymorth i bobl sydd eisiau defnyddio’r Gymraeg,” meddai.
"Mae’r côr hefyd yn atynnu pobl eraill i ymddiddori yn yr iaith.”
I Richard Hopkin, mae'r côr wedi rhoi cyfle i ail-gysylltu gyda’i wreiddiau yng Nghlydach, Abertawe ac ymarfer ei iaith wrth ei fod yn byw yn Llundain.
“Symudais o Gymru i’r brifysgol ac yna symud i fyw yma,” meddai.
“Fe wnaeth e gymryd ryw ugain mlynedd i mi sylweddoli, chi’n gwybod beth, fysa’ fe’n neis i gysylltu eto gyda phethau Cymraeg.
"Nawr dwi ‘di bod yma yn y côr ers 18 mlynedd.”
'Cefnogi diwylliant'
Un arall o’r rheiny sydd wedi manteisio ar fod yn aelod o’r côr yw Simon Gregory.
Wedi ei fagu yn Awstralia cyn symud i Loegr, ymunodd Simon â’r côr ‘nôl yn 2019 ac mae e bellach yn cwbl rugl.
“Ar ôl i fi glywed am brosiect miliwn ar y radio, dwi wedi penderfynu cefnogi iaith newydd, math newydd o iaith a chefnogi diwylliant Prydeinig,” meddai.
"Mae’r côr yn rhoi cyfle i mi i ymarfer yr iaith yn rheolaidd a hefyd canu’r ffefrynnau fel Myfanwy a Gwahoddiad.”
Fel nifer o’r rheiny sy’n rhan o ddiwylliant Cymreig Llundain, mae Simon yn awchu i chwarae ei ran yn yr her o gyrraedd miliwn o siaradwyr.
“Dim ond pan mae pobl yn defnyddio’r iaith fydd hynny’n bosib, y mwyaf o bobl sy’n defnyddio’r iaith fwy sicr fydd hi,” meddai.
‘Gorau Cymro, Cymro oddi cartref,’ medden nhw, gan estyn gwahoddiad yma i eraill ymuno.