Donald Trump yn dweud ei fod wedi sicrhau 'cytundeb masnach enfawr'
Mae Donald Trump wedi dweud bod yr Unol Daleithiau wedi sicrhau "cytundeb masnach enfawr" gyda gwlad "uchel ei barch" a fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau.
Yn ôl adroddiadau yn yr UDA, gan gynnwys y New York Times, mae'r cytundeb newydd wedi ei gytuno gyda'r Deyrnas Unedig.
Dywedodd Rhif 10 Stryd Downing bod y trafodaethau wedi bod yn “parhau" ac y bydd y Prif Weinidog yn cynnig diweddariad heddiw.
Cyhoeddodd Trump ar gyfrwng cymdeithasol Truth Social y byddai'n cynnal cynhadledd newyddion yn y Tŷ Gwyn am 10:00 amser lleol (15:00 BST) i gyhoeddi "cytundeb masnach enfawr gyda chynrychiolwyr gwlad fawr, uchel ei barch".
Dyma fyddai'r cytundeb gyntaf iddo arwyddo ers iddo gyhoeddi ei fod am osod tariffau uchel ar fewnforion i'r Unol Daleithiau.
Ddechrau fis Ebrill fe wnaeth arlywydd yr UDA gadarnhau y bydd tariffau o 10% ar nwyddau sy’n cael eu mewnforio o’r DU i’r Unol Daleithiau o 5 Ebrill ymlaen.
Cyhoeddodd treth uwch o 25% ar geir, dur ac alwminiwm.
Mae'r UDA a'r DU wedi cynnal trafodaethau dros gytundeb masnach posib, ac mae'r Canghellor Rachel Reeves wedi dweud bod Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio'n "ddiflino" i sicrhau cytundeb byddai'n lleihau effaith y tariffau.
Cyhoeddodd y DU ddydd Mawrth bod y wlad wedi dod i gytundeb masnach ag India, a fyddai'n golygu tariffau llawer is ar chwisgi scotch ac allforion ceir i India.
Bydd ardoll ar awyrofod, teclynnau trydanol a chynhyrchion bwyd eraill hefyd yn rhan o'r cytundeb, tra bydd disgwyl i bobl y DU elwa o ostyngiad mewn tariffau ar rai nwyddau Indiaidd fel dillad sydd yn cael ei fewnforio i'r wlad.