Teyrnged i ddyn rali fu farw mewn digwyddiad ar ffordd gefn ger Corwen
Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddyn rali 70 oed a fu farw yn dilyn “digwyddiad meddygol tybiedig” yn ystod rali ger Corwen yn oriau mân fore Sadwrn.
Mewn datganiad fe wnaeth Motorsport UK a Chlwb Moduron Dyffryn Clwyd gadarnhau bod swyddog digwyddiad, Ian Williams wedi marw yn ystod Rali Goffa Bob Twin Cam.
Dywedodd y datganiad: “Gyda thristwch mawr y mae Motorsport UK a Chlwb Moduron Dyffryn Clwyd yn cadarnhau bod Swyddog y Digwyddiad, Ian Williams, wedi marw yn dilyn digwyddiad meddygol tybiedig yn ystod Rali Goffa Bob Twin Cam.
“Er gwaethaf ymateb uniongyrchol ac ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys yn y fan a'r lle, bu farw Ian yn drist yn ystod y digwyddiad.
“Sefydlwyd y rali er anrhydedd i dad Ian, Bob Williams, ac mae ralïo wedi bod wrth wraidd teulu Williams dros bedair cenhedlaeth. Roedd mab ac ŵyr Ian hefyd yn rhan o'r digwyddiad, gan adlewyrchu ymrwymiad gydol oes y teulu i'r gamp a natur glos y gymuned ralio.
“Mae meddyliau Motorsport UK a'r tîm trefnu yn parhau gyda theulu a ffrindiau Ian, ac mae pawb oedd yn rhan o'r digwyddiad a'r gymuned chwaraeon moduro ehangach yn meddwl amdanynt yr amser anodd hwn.”
Yn dilyn y digwyddiad, cafodd y rali ei chanslo.
Dywedodd Motorsport UK eu bod nhw a'r tîm trefnu yn cefnogi'r awdurdodau perthnasol gyda'u hymholiadau sy’n parhau.
Ychanegodd y datganiad: “Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod yr amser anodd hwn ac ni fydd unrhyw wybodaeth bellach yn cael ei rhyddhau ar hyn o bryd.”
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw ychydig wedi hanner nos ddydd Sadwrn 23 Mai, yn dilyn gwrthdrawiad oedd yn ymwneud ag un cerbyd ar ffordd gefn rhwng y B5105 a Melin-y-Wig, ger Corwen.
Yn ôl yr heddlu, roedd y car Ford Escort melyn, a gafodd ei gofrestru gyntaf yn 1992, wedi ei ddisgrifio fel cerbyd “math rali”, ac fe gadarnhaodd y llu fod y gyrrwr wedi marw yn y fan a’r lle.