Saethu dyn yn farw ger cartref Arlywydd America

Dyn wedi ei saethu yn Washington DC

Mae’r Gwasanaeth Cyfrinachol yn America wedi saethu dyn 21 oed yn farw mewn digwyddiad ger y Tŷ Gwyn yn y brifddinas Washington DC.

Mae’r cyfryngau yn America wedi cyhoeddi taw Nasire Best oedd y dyn a gafodd ei ladd gan swyddogion, am ei fod dan amheuaeth o fod wedi saethu at swyddogion mewn lleoliad ger y Tŷ Gwyn am tua 18:00 amser lleol (23:00GMT) nos Sadwrn.

Yn ôl adroddiadau, roedd y dyn yn adnabyddus i’r gwasanaethau diogelwch yn America, ac roedd ganddo hanes o fod â chyflyrau iechyd meddwl.

Fe wnaeth yr Arlywydd Donald Trump, oedd yn y Tŷ Gwyn ar y pryd, ddiolch i’r swyddogion am eu "gweithredu cyflym a phroffesiynol".

Cafodd gohebwyr oedd yn ardal y Tŷ Gwyn eu hebrwng i mewn i'r adeilad am eu diogelwch pan ddechreuodd ergydion gael eu tanio y tu allan.

Cafodd aelod o’r cyhoedd hefyd ei anafu yn y saethu, ond ni roddodd y Gwasanaeth Cyfrinachol fanylion pellach am eu cyflwr. 

Ni chafodd unrhyw swyddogion eu hanafu yn yr ymosodiad.

Yn ôl adroddiadau roedd Best wedi ceisio cael mynediad i'r Tŷ Gwyn ym mis Gorffennaf 2025 a'i fod wedi cael ei arestio gan swyddogion wrth geisio gwneud hynny.

Roedd wedi treulio amser mewn canolfan seiciatrig yn dilyn hynny ac roedd wedi bod yn byw yn Washington DC am 18 mis.

Llun: Reuters

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.