Ebola: Gwirfoddolwyr y Groes Goch wedi marw o’r clefyd
Mae tri gwirfoddolwr gyda’r Groes Goch wedi marw o’r clefyd ebola yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn Affrica.
Dywedodd y sefydliad fod y gwirfoddolwyr wedi dal yr haint wrth reoli cyrff y meirw.
Credir eu bod wedi dal y feirws ar ddiwedd mis Mawrth wrth weithio yn rhanbarth dwyreiniol yn y wlad, Ituri, a hynny ar brosiect nad oedd yn gysylltiedig â'r firws, cyn i'r achos gael ei nodi yno.
Mae amheuaeth fod mwy na 170 o bobl wedi marw o’r feirws a bod 750 o achosion wedi eu nodi.
Dywedodd Ffederasiwn Rhyngwladol Cymdeithasau'r Groes Goch a'r Cilgant Coch, bod y gwirfoddolwyr wedi marw ar ôl gwasanaethu eu cymunedau "gyda dewrder a dynoliaeth".
Mae arbenigwyr iechyd yn rhybuddio y gall cyrff cleifion sydd wedi marw o'r ebola ledaenu'r feirws oherwydd bod hylifau corfforol yn parhau i fod yn heintus iawn ar ôl marwolaeth.
Mae'r achos yn ymwneud â math prin iawn o'r ebola, a elwir yn Bundibugyo.
Nid oes brechlyn profedig yn gallu atal yr haint ar hyn o bryd ac mae’n lladd tua thraean o'r rhai sydd wedi'u heintio.
Ddydd Gwener, cododd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) y risg iechyd cyhoeddus o'r feirws yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo o "uchel" i "uchel iawn".
Dywedodd pennaeth yr WHO, Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus, hefyd fod y risg yn y rhanbarth ehangach yn Affrica yn uchel ond yn parhau i fod yn isel yn fyd-eang.