Ebola: Amheuaeth fod gwirfoddolwyr y Groes Goch wedi marw o’r clefyd

Ebola

Mae amheuaeth fod tri gwirfoddolwr gyda’r Groes Goch wedi marw o’r clefyd ebola yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn Affrica.

Dywedodd y sefydliad fod y gwirfoddolwyr wedi dal yr haint wrth reoli cyrff y meirw.

Credir eu bod wedi dal y feirws ar ddiwedd mis Mawrth wrth weithio yn rhanbarth dwyreiniol yn y wlad, Ituri, a hynny ar brosiect nad oedd yn gysylltiedig â'r firws, cyn i'r achos gael ei nodi yno.

Mae amheuaeth fod mwy na 170 o bobl wedi marw o’r feirws a bod 750 o achosion wedi eu nodi.

Dywedodd Ffederasiwn Rhyngwladol Cymdeithasau'r Groes Goch a'r Cilgant Coch, bod y gwirfoddolwyr wedi marw ar ôl gwasanaethu eu cymunedau "gyda dewrder a dynoliaeth".

Mae arbenigwyr iechyd yn rhybuddio y gall cyrff cleifion sydd wedi marw o'r ebola ledaenu'r feirws oherwydd bod hylifau corfforol yn parhau i fod yn heintus iawn ar ôl marwolaeth.

Mae'r achos yn ymwneud â math prin iawn o'r ebola, a elwir yn Bundibugyo.

Nid oes brechlyn profedig yn gallu atal yr haint ar hyn o bryd ac mae’n lladd tua thraean o'r rhai sydd wedi'u heintio.

Ddydd Gwener, cododd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) y risg iechyd cyhoeddus o'r feirws yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo o "uchel" i "uchel iawn".

Dywedodd pennaeth yr WHO, Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus, hefyd fod y risg yn y rhanbarth ehangach yn Affrica yn uchel ond yn parhau i fod yn isel yn fyd-eang.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.