Dynes o Ddeiniolen yn gwario dros £21,000 ar baneli solar sydd ddim yn gweithio
Mae dynes o Ddeiniolen yng Ngwynedd yn dweud ei bod hi’n “difaru” cael paneli solar wedi eu gosod ar ôl i ddau banel ddisgyn oddi ar do ei thŷ.
Daeth y paneli solar yn rhydd oddi ar dŷ Eirlys Hughes, 79 oed, yng ngwyntoedd Storm Claudia ym mis Tachwedd 2025, ar ôl i gwmni Infinite Energy Solutions wneud gwaith ar y paneli ym mis Hydref.
“Yn y gwynt maen nhw yn taro yn erbyn y to. Mae’n effeithio ar fy nghwsg. Maen nhw yn fy neffro i yn ganol y nos, stopio fi rhag gallu mynd nôl i gysgu. Dwi ofn rhag ofn i rywbeth ddigwydd,” meddai.
Ym mis Ionawr 2026, daeth Eirlys adref i ddarganfod bod dau o’r paneli oedd yn rhydd wedi disgyn oddi ar ei tho a glanio yn ei gardd hi, a gardd ei chymdogion.
Yn ôl Eirlys, cwmni Infinite Energy Solutions sy’n gyfrifol am y paneli’n dod yn rhydd.
“Oedden nhw yn iawn am dros 10 mlynedd, cyn iddyn nhw wneud gwaith arnyn nhw. Dwi yn eu dal nhw yn hollol gyfrifol.”
Mae mwy o baneli dal i fod yn rhydd ar y to, ac mae Eirlys yn ofni i’r rheiny ddisgyn hefyd.
“Dwi’n poeni bod y rhai sydd dal yn rhydd am chwythu i ffwrdd. Fe allen nhw hitio ceir neu bobl hyd yn oed. Mae’n wyrth bod neb wedi brifo pan ddaeth y ddau gyntaf i ffwrdd.”
Cafodd y paneli solar eu gosod ar ei thŷ yn wreiddiol yn 2015 gan gwmni My Planet, aeth i’r wal yn 2017.
Ers 2025, Infinite Energy Solutions yw'r cwmni sydd wedi bod yn gyfrifol am eu cynnal a'u cadw.
“Oeddwn i yn hoffi’r syniad eu bod nhw yn ffordd fwy gwyrdd o greu egni. Oedd o yn swnio fel syniad neis, rhywbeth da i neud,” meddai.
“Dwi’n difaru fy enaid. Mae wedi bod gymaint o drafferth a gymaint o gost. Wnâi byth wneud yr arian yn nôl gyda be dwi yn ei gynhyrchu.”
Mae Eirlys wedi talu dros £21,000 i gwmnïoedd am osod a chynnal y paneli ers 2015.
Mae wedi talu dros £6,000 i Infinite Energy Solutions ers mis Gorffennaf 2025.
“Mae wedi bod yn sefyllfa boenus iawn i mi. Dwi’n poeni o hyd am y paneli sydd dal i fod yn rhydd, a be sydd yn mynd i ddigwydd iddyn nhw.”
Er i Eirlys gysylltu gyda’r cwmni sawl gwaith ers i’r paneli ddod yn rhydd, nid yw hi wedi cael unrhyw ateb. Mae hi nawr yn ystyried mynd â’r cwmni i’r llys.
“Dwi isho fy mhres yn ôl, ac iddyn nhw gymerid cyfrifoldeb. Mae‘r ffaith bod nhw wedi anwybyddu fi yn gwneud fi yn flin.
“Mae meddwl gorfod mynd â nhw i’r llys yn gwneud fy stumog i i droi. Ond os oes rhaid i mi wneud, mae rhaid i mi wneud.”
Mae ITV Cymru wedi cysylltu gydag Infinite Energy Soultions sawl tro i holi am eu hymateb i stori Eirlys, ond nid yw'r cwmni wedi cynnig ymateb.