Ynys Môn: Gwahardd pêl-droediwr am bum mlynedd ar ôl ymosod ar chwaraewr mewn gêm ym Mhorthmadog
Mae pêl-droediwr o Landdona ar Ynys Môn a ymosododd ar chwaraewr arall mewn gêm rhwng Porthmadog a Bae Trearddur wedi cael ei wahardd rhag chwarae pêl-droed am bum mlynedd.
Fe wnaeth Thomas Taylor, 36 oed, daro chwaraewr Porthmadog, Danny Brookwell, gyda’i benelin mewn gêm ar 17 Ionawr.
Cafodd Mr Brookwell gyfergyd ac anafiadau i'w geg o ganlyniad i’r ergyd, a ddigwyddodd wrth i dîm Borthmadog gymryd cic o’r smotyn yn ystod y gêm.
Ar 11 Mai, cafodd Taylor ddedfryd o 24 wythnos o garchar wedi’i gohirio am 12 mis yn Llys Ynadon Caernarfon.
Mae panel disgyblu Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi cyfarfod i drafod yr ymosodiad, ac mae Taylor wedi ei wahardd "o bob gweithgaredd sy'n ymwneud â phêl-droed" am gyfnod o bum mlynedd.
Mewn datganiad, dywedodd CBDC: "Roedd panel disgyblu wedi cyfarfod yn ddiweddar i drafod cosb yn erbyn Thomas Taylor yn dilyn cyhuddiad ei fod wedi cyflawni gweithred o ymddygiad treisgar yn erbyn gwrthwynebwr.
"Ar ôl ystyried yn ofalus y dystiolaeth a gafodd ei chyflwyno, roedd y panel wedi penderfynu bod modd profi'r cyhuddiad yn erbyn Thomas Taylor.
"O ganlyniad, bydd Thomas Taylor yn cael ei wahardd o bob gweithgaredd sy'n ymwneud â phêl-droed am bum mlynedd."
Ychwanegodd CBDC fod y cyfnod pum mlynedd wedi dechrau ar 22 Ionawr 2026.
Bydd Taylor yn cael dirwy a bydd yn rhaid iddo dalu costau hefyd.
Mae ganddo tan 17:00 ar 12 Mehefin i apelio yn erbyn y penderfyniad.