Twnnel Hafren rhwng Cymru a Lloegr yn ailagor wedi gwaith uwchraddio

Llun: Network Rail
Twnnel Hafren

Mae gwaith uwchraddio "cyntaf o'i fath" i wella dibynadwyedd gwasanaethau trenau drwy Dwnnel Hafren wedi ei gwblhau.

Dros gyfnod o 16 diwrnod, roedd Network Rail wedi gwario £23 miliwn ar wella llinellau pŵer a chyflenwad pŵer yn y twnnel er mwyn "gwella dibynadwyedd" llwybr trenau rhwng Cymru a Lloegr.

Mae'r twnnel yn 4.35 milltir o hyd ac wedi ei leoli dan aber Hafren, gyda sawl gwasanaeth trên rhwng y ddwy wlad yn teithio drwyddo bob dydd.

Roedd dros 250 o beirianwyr wedi gweithio ar y datblygiad gan Network Rail a chwmni ARQ ar y cyd.

Image
Gweithwyr yn ailosod llinellau pŵer
Gweithwyr yn ailosod llinellau pŵer. Llun: Network Rail

'Heriol'

Mae'r Twnnel Hafren yn un o "amgylcheddau mwyaf heriol" rhwydwaith trenau'r DU, meddai Network Rail.

Ers trydaneiddio'r rheilffordd yno, mae dŵr o'r aber wedi cyflymu'r niwed i'r llinellau pŵer.

Fe wnaeth Network Rail ddatblygu system llinellau pŵer newydd sydd wedi'i chreu i ymdopi ag amgylchedd y twnnel - oedd yn cynnwys 838 o linellau newydd i gefnogi'r rhai sydd yno ar hyn o bryd.

Yn ogystal â'r rheiny, fe gafodd 14,000 metr o wifrau newydd eu gosod, gyda 7,200 metr o gyfarpar newydd yn cael ei osod.

Fe gafodd 1,500m o drac newydd ei osod er mwyn gwneud teithiau trên yn llyfnach, ac mae gwaith wedi ei gwblhau er mwyn ymdrin â llifogydd ar ochr Bryste o'r twnnel.

Image
Mae "amgylchedd heriol" y twnnel wedi golygu bod angen gwaith uwchraddio. Llun: Network Rail
Mae "amgylchedd heriol" y twnnel wedi golygu bod angen gwaith uwchraddio. Llun: Network Rail

Mae Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybr Network Rail Cymru a'r Gororau, yn dweud bod y gwaith wedi ei gwblhau yn dilyn cyfnod prawf llwyddiannus yn 2025.

"Mae'r Twnnel Hafren yn un o amgylcheddau mwyaf heriol ar rwydwaith rheilffyrdd y DU, felly mae cwblhau'r gwaith hwn yn gamp sylweddol i bawb oedd yn rhan ohono," meddai.

"Ar ôl treialon llwyddiannus y llynedd, rydym nawr wedi cwblhau gwaith peirianyddol cyntaf o'i fath yn y byd ar raddfa fawr, sydd wedi ei deilwra'n arbennig i wrthsefyll amodau tu mewn i'r twnnel.

"Dwi'n hynod falch o'r cannoedd o weithwyr a chontractwyr sydd wedi gweithio ddydd a nos i sicrhau bod y gwaith cymhleth hwn wedi'i gwblhau'n ddiogel ac yn llwyddiannus.

"Hoffwn ddiolch hefyd i deithwyr, cwmnïau cludo a chymunedau lleol am eu hamynedd a dealltwriaeth wrth i ni gwblhau'r gwaith angenrheidiol yma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.