Eisteddfod yr Urdd wedi 'siapio' gyrfa Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith

Mr Urdd ar Faes Sioe Mon a Manon Wyn Williams

Mae Eisteddfod yr Urdd wedi dychwelyd i Ynys Môn am y tro cyntaf ers 2004 - Eisteddfod a adawodd ei hôl ar gadeirydd Pwyllgor Gwaith yr ŵyl eleni, Manon Wyn Williams.

Mae Manon Wyn Williams o Rosmeirch Ynys Môn yn gweithio fel darlithydd drama a sgriptio yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Dywedodd fod Eisteddfod yr Urdd  2004 wedi dylanwadu ar ei gyrfa.

“Nes i sylweddoli mewn gwirionedd, wrth gymryd rhan yn y cystadlaethau ac yn y sioeau, cymaint oedd fy niddordeb i mewn perfformio,” meddai.

“Wedyn mewn ffordd, mae wedi siapio’r llwybr gyrfaol dw i wedi’i ddilyn ers hynny.

“Mae’r celfyddydau a’r ddrama fel cyfrwng wedi chwarae rhan allweddol yn fy mywyd i, ac wedi cael ei sbarduno gan y ‘Steddfod yn 2004.”

Fe enillodd Williams Ysgoloriaeth Bryn Terfel yr Urdd yn 2007 wedi iddi gyrraedd y brig yng nghystadleuaeth  Cyflwyniad Theatrig (19-25 oed) yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2007.

Wrth siarad â Newyddion S4C am y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, dywedodd Manon ei bod wedi bod yn “fraint cael arwain y Pwyllgor”.

“Mae o wedi bod yn waith cyson mewn gwirionedd ers dwy flynedd a hanner. Mae ’na wastad rywbeth,” meddai.

Fe gafodd yr ynys ei rhannu’n tua 25 o ardaloedd apêl er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth, gyda chymunedau ledled Ynys Fôn yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau i gefnogi’r Eisteddfod.

Dywedodd Williams ei bod wedi bod yn “braf” gweld cymunedau’r ynys yn dod ynghyd dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf.

Image
Manon Wyn Williams yn ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2007
Enillodd Manon Wyn Williams Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2007

Targed o £380,000

Un o swyddi pwysig y Pwyllgor Gwaith oedd codi arian a chyrraedd y targed ariannol.

Cafodd y targed o £380,000 ei osod gan yr Urdd ym mis Medi 2023. Cyhoeddodd y Pwyllgor Gwaith eu bod wedi cyrraedd y targed ar Mai 16 2026. 

“Tydi o ddim wedi bod yn hawdd o bell ffordd, ac mae’r ffaith ein bod ni wedi cyrraedd wythnos cyn yr Eisteddfod cyn medru cyrraedd y targed yn brawf o hynny,” meddai Ms Williams.

“Ffactor arall wrth gwrs ydy bod Sir Fôn hefyd yn noddi’r Sioe Frenhinol (yn 2027), felly mae angen codi arian at hynny hefyd.

“Yn aml iawn, yr un bobl yn y cymunedau sy’n weithgar yn codi arian at bob math o wahanol achosion."

Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd cymunedau’r ynys yn gallu parhau i godi arian tuag at y Sioe Frenhinol ar ôl yr Eisteddfod.

Yn ôl Ms Williams, mae’r gwaith paratoi wedi dod â chymunedau Sir Fôn ynghyd.

“Dw i’n gobeithio mai rhywbeth fydd yn waddol i’r Eisteddfod fydd y ffaith bod y paratoadau wedi cryfhau’r ymdeimlad cymunedol oedd eisoes yn bodoli yma.”

Mewn ymdrech i gyrraedd y targed, cynhaliwyd amryw o ddigwyddiadau codi arian fel cyngherddau, twmpathau a nosweithiau comedi.

"Mae na gannoedd o ddigwyddiadau wedi bod dros y flwyddyn a hanner diwethaf," meddai.

" O helfa drysor i'ch bingo chi i sblash am cash lle mae pobl yn mynd i mewn i'r môr. Ma na siop elusen di bod yng Nghaergybi yn codi arian.

"Os fedrwch chi feddwl amdano fo ma da ni wedi neud."

Image
Sblash am Cash ar draeth Benllech
Criw ‘Sblash am Cash’ yn mentro i’r môr ym Menllech i godi arian tuag at Apêl Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026

Harddu’r ardal

Mae cymunedau ar draws Sir Fôn hefyd wedi bod yn addurno pentrefi a threfi er mwyn croesawu’r Eisteddfod i’r ynys.

Yn ôl Manon Wyn Williams, mae’r ymdrech i harddu’r ardal yn amlwg wrth deithio o gwmpas Sir Fôn.

“Mae o mor braf cael teithio o gwmpas pentrefi a threfi’r ynys a gweld yr ymdrech sydd wedi cael ei gwneud er mwyn rhoi croeso i’r ynys,” meddai.

“Mae cymunedau wirioneddol wedi mynd i andros o ymdrech i addurno ac i harddu. Maen nhw’n edrych yn wych.”

Mae cystadlaethau harddu bro wedi cael eu cynnal mewn pedwar categori, sef ysgolion, pentrefi, busnesau a chartrefi.

Ychwanegodd Ms Williams ei bod yn gobeithio y bydd ymwelwyr â’r Eisteddfod yn cael cyfle i grwydro’r ynys er mwyn gweld yr addurniadau.

Image
Harddu'r ardal yn Ynys Mon
Baneri, addurniadau a digon o liw wrth i’r ardal baratoi i groesawu Eisteddfod yr Urdd 

Eisteddfod saith diwrnod

Bydd yr Eisteddfod eleni yn nodi newid mawr, gyda’r ŵyl yn cael ei chynnal dros saith diwrnod am y tro cyntaf erioed.

Dywedodd Ms Williams fod Eisteddfod eleni yn “torri tir newydd” fel yr Eisteddfod saith niwrnod gyntaf.

Daw’r newid wrth i’r niferoedd sy’n cystadlu barhau i gynyddu, gyda nifer cystadleuwyr Sir Fôn eleni yn "uwch nag erioed".

“Mae hynny’n brawf eto o faint o blant a phobl ifanc yr ynys sy’n mynd i gael profiad o fod yn rhan o’r paratoadau, y sioeau, yr oedfa ac yn y blaen," meddai.

Bydd yr wythnos yn benllanw i waith y Pwyllgor Gwaith dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, ac mae Ms Williams yn edrych ymlaen at groesawu pobl i’r ynys.

“Mi fydd ’na groeso a hanner yn disgwyl pawb yn Sir Fôn yma,” meddai.

“Dan ni’n gwybod sut mae croesawu pawb efo breichiau agored, felly dw i’n gobeithio fydd pawb yn croesi’r pontydd ac yn dod yma i fwynhau am yr wythnos.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.