'Fel dwrn yn eich stumog': Y dyn busnes Nick Pritchard yn trafod ei ddiagnosis o ganser

Nick Pritchard

Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai.

Mae dyn busnes o Fôn sydd yn gadeirydd ar Glwb Pêl-droed Dinas Bangor 1876 yn annog dynion i beidio anwybyddu symptomau ar ôl iddo dderbyn diagnosis o ganser y coluddyn yn ddiweddar.

Cafodd Nick Pritchard, sydd hefyd yn gynghorydd ar gyngor dinas Bangor, ddiagnosis o ganser ddiwedd mis Mai.

“Ro’n i’n teimlo’n numb,” dywedodd Mr Pritchard wrth Newyddion S4C, am y foment pan dderbyniodd y newyddion.

“Roedd o bron yn deimlad o edrych o’r tu allan, yn edrych yn ôl a gweld rhywun arall yn cael y newyddion yna. Mae’n rhywbeth does neb eisiau credu.

“Roedd o fel cael eich dyrnu yn y stumog yn galed iawn, iawn. Hyd yn oed rŵan, tydi o ddim yn teimlo’n wir. Mae’n rhyfedd, ond ro’n i’n lwcus bod fy ngwraig yna yn dal fy llaw."

Mae Mr Pritchard yn dweud ei fod yn disgwyl i gwrdd â meddygon yn y dyddiau nesaf i gael gwybod mwy am brognosis yr afiechyd a’r ffyrdd orau o’i drin.

Camu'n ôl

Mae Mr Pritchard yn berchennog ar nifer o fusnesau, gan gynnwys Quidos Investments Ltd, sydd wedi prynu adeilad cyn-bencadlys Cyngor Conwy. 

Ond dywedodd ei fod yn bwriadu camu’n ôl o’i waith a chymryd seibiant o’i ddyletswyddau ar Gyngor Dinas Bangor, wrth iddo ddod i delerau â’r cyflwr.

“Dwi’n rhywun sydd bob tro’n ceisio troi popeth i mewn i rywbeth positif. Ond mae’n roller-coaster. Dwi’n teimlo’n iawn heddiw.

“Ond wedyn ti’n edrych ar bethau fel gwneud yn siŵr bod yr ewyllys yn iawn, gwneud yn siŵr fod y plant yn sorted a’r cyfrifon banc yn sorted, a mwyaf sydyn mae’n dod â deigryn bach i dy lygaid. Mae’n roller-coaster o emosiynau.”

Dywedodd Mr Pritchard ei fod wedi profi symptomau ers tua blwyddyn, ond ddim wedi eu cymryd o ddifrif yn ddiweddar.

“Dwi’n teimlo dipyn bach yn embarassed, dwi’n meddwl bod o wedi bod tua blwyddyn, ella mwy na hynny, dwi ddim yn siŵr. Dwi wedi gweld gwaed yn fy ysgarthion ers amser hir. 'Dw i’n cofio lle ro’n i pan wnes i sychu a gweld gwaed ar y tissue am y tro cyntaf.

“Mae pobl weithiau yn meddwl mai piles ydy hynny, a pan welais i’r gwaed, nes i feddwl yn syth - mae’n rhaid mai piles ydy o. Y peth olaf ar fy meddwl oedd, ‘mae gen i ganser, mae’n rhaid i mi weld y doctor’. 

“Digwyddodd hyn pan gollais i fy nghi a doeddwn i ddim yn gwybod os mai’r newyddion drwg oedd yn achosi poen yn nwfn yn fy stumog, fel bod o’n cael ei wasgu. Roedd o’n gut-wrenching, fel bod rhywun yn rhoi sioc drydanol i chi.

“Dyna oedd y crampiau, y symptom arall ro’n i’n teimlo, ag erbyn hyn dwi bron yn gwybod ble’n union mae’r canser oherwydd mai dyna ble oedd y crampiau.”

Fe wnaeth Mr Pritchard rannu ei ddiagnosis gyda’i ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol wythnos diwethaf, ac mae’n dweud bod yr ymateb i’r fideo wedi bod yn un cadarnhaol.

A yw’n credu bod yna stigma yn dal yn bodoli gan ddynion sydd ddim eisiau cyflwyno’u symptomau i’w meddyg?

“Oes, yn sicr,” meddai.

“Rydw i wedi cael gymaint o negeseuon personol gan gymaint o wahanol bobl yn dweud eu bod nhw’n mor falch o weld hynny, a bod nhw’n rhy ofnus i fynd at y doctor. Mae rhai yn dweud bod ganddyn nhw waed hefyd, a dwi ‘di dweud bod rhaid i checkio hynny hefo’r doctor.

“Yr arwydd mwyaf, y red flag mwyaf yw, os mae ’na waed, mae 'na rywbeth o’i le. Nid yw dynion yn pasio gwaed oni bai fod 'na rhywbeth o’i le. Hyd yn oed os ‘da chi’n meddwl mai piles ydi o, mae’n werth checkio pethau drosodd.”

Symptomau

Mae canser y colon yn fath o ganser y coluddyn. Mae 48,213 o achosion newydd o ganser y coluddyn  yn cael eu cofnodi yn y DU bob blwyddyn yn ôl Cancer Research UK

Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd mae symptomau canser y coluddyn yn cynnwys:

  • Newidiadau yn eich gwastraff, fel cael baw meddalach, dolur rhydd neu rwymedd (constipation) nad yw'n arferol i chi
  • Gwaed yn eich gwastraff, a all edrych yn goch neu'n ddu
  • Gwaedu o'ch pen-ôl
  • Teimlo'n aml fel bod angen i chi fynd i'r toiled, hyd yn oed os ydych chi newydd fod
  • Poen yn y bol
  • Lwmp yn eich bol
  • Chwyddo
  • Colli pwysau heb geisio
  • Teimlo'n flinedig iawn neu'n fyr o anadl - mae'r rhain yn arwyddion o anemia, a all gael ei achosi gan ganser y coluddyn

Os ydych chi wedi eich effeithio gan gynnwys yr erthygl hon, mae cymorth ar gael ar wefan Cymorth S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.