Chwilio am ddau berson ger arfordir Sir Gâr
Mae timau achub yn chwilio am ddau berson sydd o bosib wedi mynd i drafferthion yn agos i’r arfordir yn Sir Gar nos Lun.
Cafodd Gwylwyr y Glannau a swyddogion Heddlu Dyfed-Powys eu galw i draeth Cefn Sidan ym Mhen-bre, ger Porth Tywyn, am 21.50 nos Lun.
Roeddent yn ymateb i alwad yn adrodd bod dau unigolyn yn gwisgo dillad tywyll ac yn chwifio tortsh wrth ymyl y môr.
Nid yw’n eglur os oedd y ddau berson mewn trafferthion neu wedi’u hanafu yn y lleoliad.
Cafodd ymdrech aml-asiantaeth ei lansio ond ni chafodd y ddau berson eu lleoli.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal ymchwiliad ac yn annog unrhyw un oedd yn yr ardal nos Lun, neu sydd ag unrhyw wybodaeth, i gysylltu â nhw gan ddefnyddio’r cyfeirnod DP-20260608-423.