Belfast: Bws wedi’i roi ar dân wrth i brotest droi'n dreisgar yn dilyn ymosodiad â chyllell
Mae bws wedi’i roi ar dân yn Belfast wrth i brotest yn erbyn mewnfudo droi’n dreisgar, yn sgil ymosodiad â chyllell yn y ddinas.
Fe wnaeth dynion â’u hwynebau wedi’u gorchuddio roi biniau masnachol ar dân a’u gwthio i mewn i fws Glider ar Ffordd Newtownards yn nwyrain y ddinas nos Fawrth.
Daw hyn oriau wedi i Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Iwerddon apelio ar bobl i bwyllo, wrth i bryderon gynyddu y gallai’r protestiadau droi’n dreisgar.
Dywedodd Jon Boutcher y dylai pobl ganiatáu i’r heddlu wneud eu gwaith heb gael eu tynnu oddi wrth yr ymchwiliad gan anhrefn ehangach.
Roedd torf fawr wedi ymgynnull yn yr ardal ar gyfer protest yn erbyn mewnfudo.
Mae protestiadau hefyd wedi cael eu cynnal mewn ardaloedd eraill yng Ngogledd Iwerddon, gyda nifer o ffyrdd wedi’u cau gan grwpiau o brotestwyr â’u hwynebau wedi’u gorchuddio.
Ymosodiad â chyllell
Mae dioddefwr yr ymosodiad â chyllell wedi cael anafiadau sylweddol i’w lygaid.
Dywedodd yr heddlu bod gan yr ymosodwr honedig ganiatâd i aros yn y DU ar ôl teithio i Ogledd Iwerddon o Ddulyn.
Roedd y dyn sy'n cael ei amau, sydd yn ei 30au, hefyd wedi gadael clwyfau ar wyneb a chefn y dioddefwr, yn ôl yr heddlu.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Ryan Henderson nad oedd unrhyw arwydd bod yr ymosodiad yn gysylltiedig â therfysgaeth.
Mae Heddlu Gogledd Iwerddon wedi datgan “digwyddiad o bwys” wrth ymateb i’r ymosodiad.
Fe gafodd ei ffilmio ar fideo ac mae’n ymddangos fel pe bai’n dangos dyn yn trywanu pen a gwddf y dioddefwr tra oedd yn gorwedd ar y llawr.
Mae’r clip yn dangos pobl, gan gynnwys un person â ffon o’r gamp hyrli (hurling) yn ymyrryd i atal y dyn rhag ymosod ar y dioddefwr mewn ardal breswyl ger Ffordd Antrim.
Cafodd cyllell gegin ei darganfod yn y fan a’r lle, meddai Mr Henderson.
Dywedodd yr heddlu i ddechrau eu bod yn credu bod y dyn o dan amheuaeth yn dod o Somalia, ond fe wnaethon nhw egluro wedyn mai dyn o Sudan ydyw.
Dywedodd Mr Henderson wrth ohebwyr yn Belfast: “Ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw wybodaeth sy’n awgrymu bod hwn yn ddigwyddiad a oedd yn gysylltiedig â therfysgaeth.
“Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi bwysleisio - mae’n rhaid i mi bwysleisio - ein bod yn dal yng nghamau cynnar ein hymchwiliad.”
Dywedodd Mr Henderson ei fod yn ymwybodol o gynlluniau ar gyfer protestiadau yng Ngogledd Iwerddon mewn ymateb i’r digwyddiad.
Apeliodd ar bobl i sicrhau bod y protestiadau yn rhai heddychlon.