Arestio merch ysgol wedi i dri ddioddef anafiadau â chyllell

Co-op Academy Manchester

Mae merch wedi cael ei harestio ar ôl digwyddiad lle cafodd tri o bobl eu hanafu mewn ysgol ym Manceinion, yn ôl yr heddlu.

Fe aeth swyddogion i ysgol Co-op Academy ar Plant Hill Road, Blackley, fore Mawrth.

Fe ddioddefodd y tri anafiadau cyllell, ac roedd yr ysgol dan glo am gyfnod.

Cafodd merch ysgol ei harestio, meddai Heddlu Manceinion mewn datganiad toc wedi 09.00.

Mae'r llu wedi dweud nad ydyn nhw'n credu bod anafiadau’r tri yn rai difrifol.

Dywedodd yr heddlu: “Mae swyddogion â’r gwasanaethau brys yn parhau yn y fan a’r lle ar Plant Hill Road yn Blackley, ac yn cefnogi’r ysgol.

“Does dim tystiolaeth ar hyn o bryd fod unrhyw fygythiad ehangach i’r disgyblion na'r staff yn yr ysgol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.