Cwpan y Byd: Awdurdodau UDA yn gwrthod mynediad i ddyfarnwr o Somalia

Llun: Reuters
Omar Artan

Mae awdurdodau Unol Daleithiau America wedi gwrthod rhoi mynediad i'r wlad i ddyn o Somalia oedd fod i ddyfarnu yng Nghwpan y Byd.

Omar Artan fyddai wedi bod y dyn cyntaf o'i wlad i ddyfarnu yn y gystadleuaeth.

Ond o achos nad yw wedi cael caniatâd i fynd mewn i'r wlad mae wedi cael ei dynnu oddi ar y rhestr o ddyfarnwyr ar gyfer y gystadleuaeth.

Cafodd Artan ei wrthod rhag dod i mewn i'r wlad ym Maes Awyr Miami, ac ar hyn o bryd mae yn Nhwrci.

Does dim rheswm wedi ei roi dros ei wrthod gan awdurdodau mewnfudo America. Mae Somalia yn un o sawl gwlad sydd ar restr gwaharddiad teithio sydd wedi'i gosod gan Donald Trump.

Mewn datganiad, mae Fifa wedi dweud na fydd Omar Artan yn dyfarnu yn y gystadleuaeth.

"Mae Fifa yn gallu cadarnhau na fydd Omar Abdulkadir Artan yn gallu dyfarnu yng Nghwpan y Byd 2026 ar ôl i'r Unol Daleithiau wrthod rhoi mynediad iddo" meddai'r corff llywodraethu.

"Nid yw Fifa yn rhan o broses mewnfudo gwledydd sydd yn cynnal Cwpan y Byd, gan gynnwys penderfyniadau fisa, ac rydym wedi cael ein hysbysu gan awdurdodau na fydd statws Mr Artan yn newid ar hyn o bryd.

"Yn unol â rheolau Fifa, mae'r llywodraeth sy'n cynnal y gystadleuaeth yn penderfynu pwy sydd yn derbyn fisa ac yn cael mynediad i'w gwlad."

Mae Uwch-gynghorydd gyda gweinidogaeth chwaraeon Somalia wedi cadarnhau wrth y BBC bod America wedi gwrthod mynediad i Artan. Dywedodd fod y dyfarnwr yn teithio gyda'r dogfennau dilys.

'Cefnogaeth'

Mewn datganiad ar gyfer y gwasanaeth newyddion Reuters, dywedodd Artan ei fod yn parhau yn bositif er gwaethaf yr amgylchiadau.

"Hoffwn ddiolch i Fifa a CAF (Ffederasiwn Pêl-droed Affrica) am eu cefnogaeth, a dwi'n addo cadw fy safonau dyfarnu wrth i mi ganolbwyntio ar y dyfodol," meddai.

"Hoffwn i ddiolch i'r teulu pêl-droed am eich negeseuon a dwi'n dymuno'r gorau i fy nghydweithwyr yn ystod Cwpan y Byd. Dwi'n edrych ymlaen at ymuno â nhw yng nghystadlaethau'r dyfodol."

Mae Cymdeithas Bêl-droed Somalia wedi cysylltu â Fifa yn gofyn am eglurhad ar unwaith.

Roedd Artan, a oedd yn ddyfarnwr y flwyddyn yn Affrica'r llynedd, yn un o'r 52 o ddyfarnwyr a gafodd eu dewis i ddyfarnu yng Nghwpan y Byd yng Nghanada, Mecsico ac America rhwng 11 Mehefin a 19 Gorffennaf.

Mae'n ddyfarnwr ym mhencampwriaeth pêl-droed Somalia ac fe gafodd ei benodi'n ddyfarnwr Fifa yn 2018.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.