'Camgymeriad mawr' uno heddluoedd Cymru meddai Comisiynydd Heddlu

ITV Cymru 06/12/2023
Alun Michael

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys wedi cael ei feirniadu am ei alwadau i sefydlu un llu heddlu yng Nghymru, yn hytrach na chadw at y drefn o bedwar ar wahan. 

Un sy’n anghytuno’n chwyrn ag o yw’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Heddlu De Cymru, Alun Michael, sy'n awgrymu y dylai Dr Richard Lewis gadw at blismona yn hytrach nag ymyrryd â materion gwleidyddion. 

Dywedodd: “Buasai hwnna’n gamgymeriad mawr iawn - camgymeriad enfawr. Mae’n bwysig bod y llu gyda chysylltiad gyda’r cymunedau.

"Beth sy'n bwysig yw i Brif Gwnstabl ddweud y ffeithiau fel ag y maen nhw a gadael i eraill i benderfynu beth sy'n digwydd (yn seiliedig) ar y ffeithiau yna," meddai Alun Michael.

"Dwi'n falch o glywed pobol yn dweud eu barn, ond mae 'na ffin. Buaswn i'n dweud ar rywbeth fel un llu dros Gymru, mae e'n (Richard Lewis) agos iawn at y ffin.”

Daw ei feirniadaeth yn dilyn sylwadau Dr Richard Lewis am ddyfodol plismona yng Nghymru.

“Os na fyddwn ni, bydd gyda ni bedair system adnoddau dynol," meddai Richard Lewis. "Pedair system technoleg gwybodaeth, pedair system am bopeth, wel does dim sens yn hynny. Heddlu Cymru yw’r dyfodol”.

'Ddim wastad yn bositif'

Cafodd Dr Richard Lewis ei benodi i arwain Heddlu Dyfed Powys - sy’n cwmpasu dau draean o Gymru, ym mis Rhagfyr 2021. 

Dros gyfnod o fwy na 18 mis, mae criw teledu ITV Cymru wedi bod yn dilyn Dr Lewis ar gyfer cyfres ddogfennol i S4C; Y Prif

Yn y gobaith o drawsnewid Heddlu Dyfed Powys er gwell, meddai, mae Dr Lewis wedi bod yn rhoi cynlluniau ar waith yn y llu. 

“Ro’n i eisiau gwrando ar y cymunedau. Ro’n i eisiau gwrando ar y bobl sy’n gweithio i’r llu, a’n partneriaid, i wybod pa fath o ardal yw Dyfed Powys - beth sy’n wych am weithio yma, ond hefyd, beth sydd angen newid,” meddai.

“Dwi’n meddwl ein bod ni wedi colli’r gallu yma yn Nyfed Powys i ddweud, ‘Na, dyw hynny ddim yn ddigon da, mae angen i hynny gael ei wneud eto.’ 

“Dyw’r ymateb ddim wastad wedi bod yn bositif. Does neb yn hoffi clywed fod eu gwaith nhw ddim yn ddigon da, ond weithiau, mae’n bwysig i ddweud hynny.”

Corddi dyfroedd

Mewn fforwm yn amlinellu ei gynlluniau, dywedodd Dr Lewis wrth staff: “Dwi eisiau inni ganolbwyntio yn Nyfed Powys nid ar fod y llu gorau yn Lloegr a Chymru, dwi eisiau inni ffocysu ar fod y gorau gallwn fod. 

“Mae angen inni adsefydlu sut mae pobl yn edrych ar yr heddlu,” meddai Dr Lewis.

“Y ffordd maen nhw’n ymddiried ynom, ac mae’r gwaith hwnnw’n digwydd yma, yn ogystal ag yn Lloegr - mewn ardaloedd fel y Met. Ac mae’r math o bethau sydd wedi digwydd yn lluoedd eraill, ac i raddau llai yma yn Nyfed Powys, yn fy mhoeni’n fawr.”

Nid yw Dr Lewis yn estron i gorddi’r dyfroedd gwleidyddol, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Fodd bynnag, mae yna rai sy’n teimlo bod Dr Lewis yn rhy barod i rannu ei farnau’n gyhoeddus ar faterion heddlua dadleuol. 

Mae e eisoes wedi galw am ffurfio un llu heddlu i Gymru gyfan, gan ddadlau bod y system bresennol gyda phedwar llu ar wahan ar gyfer Gogledd Cymru, De Cymru, Gwent a Dyfed Powys yn creu gormod o fiwrocratiaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.