Newyddion S4C

merched Cymru

Merched Cymru yn cyrraedd gemau ail-gyfle Cwpan y Byd am y tro cyntaf

NS4C 06/09/2022

Mae merched Cymru wedi cyrraedd y gemau ail-gyfle am y tro cyntaf yn eu hanes yn dilyn gêm ddi-sgôr yn erbyn Slofenia.

Chwaraeodd Cymru o flaen eu torf fwyaf erioed wrth i 12,741 deithio i Stadiwm Dinas Caerdydd i wylio tîm Gemma Grainger yng ngêm olaf y gemau grŵp yn eu hymgyrch Cwpan y Byd.

Bydd Cymru nawr yn chwarae'r gemau ail-gyfle unai yn erbyn Yr Alban neu Awstralia ym mis Chwefror 2023.

Nid oedd Cymru na Slofenia wedi creu llawer yn yr hanner cyntaf. Cymru gafodd y cyfleoedd gorau gyda Sophie Ingle yn dod yn agos at sgorio gydag ergyd heibio'r postyn.

Dechreuodd yr ail hanner yn yr un modd gyda’r naill dîm yn methu torri drwy amddiffyn y llall.

Roedd Cymru yn chwarae peli trwy'r amddiffyn ond nid oedd Kayleigh Green yn gallu sicrhau fod y bêl yn mynd heibio amddiffyn Slofenia.

Roedd Carrie Jones yn agos iawn i gael gôl gyntaf y noson wedi iddi redeg trwy amddiffyn Slofenia cyn saethu o du allan i'r cwrt cosbi, ond roedd Mersnik wedi gwneud arbediad da.

Cafodd Gemma Evans gyfle gwych o'r gornel ond roedd ei pheniad yn syth at Mersnik.

Wedi 70 munud fe gafodd Zver gyfle wrthsaethu heibio'r postyn yn dilyn gwrthymosodiad gan yr ymwelwyr.

Roedd Cymru wedi amddiffyn yn dda yn yr 20 munud olaf er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd gemau ail-gyfle Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn eu hanes.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.