Newyddion S4C

Robert Buckland

Syr Robert Buckland yn parhau'n Ysgrifennydd Cymru

NS4C 06/09/2022

Mae Robert Buckland yn parhau i fod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ar ôl i Liz Truss gyhoeddi aelodau ei chabinet nos Fawrth.

Mae Mr Buckland o Lanelli yn wreiddiol ond yn cynrychioli etholaeth De Swindon, yng ngorllewin Lloegr.

Roedd hefyd yn Ysgrifennydd Cyfiawnder rhwng 2019 a mis Medi 2021. 

Cafodd ei benodi'n Ysgrifennydd Cymru fis Gorffennaf 2022 gan Boris Johnson, yn ystod y cyfnod pan ymddiswyddodd nifer fawr o weinidogion yn cynnwys cyn Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart.

Yn ôl adroddiadau bryd hynny, doedd yr un aelod seneddol Ceidwadol sy'n cynrychioli etholaeth yng Nghymru wedi mynegi diddordeb i fod yn Ysgrifennydd Cymru, yng nghabinet Boris Johnson. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.