Newyddion S4C

Liz Truss a'r Frenhines

Liz Truss yn cyhoeddi ei chabinet newydd

NS4C 06/09/2022

Rai oriau ar ôl cael ei phenodi'n Brif Weinidog Y Deyrnas Unedig, mae Liz Truss wedi dechrau ffurfio ei llywodraeth, drwy gyhoeddi aelodau ei chabinet newydd. 

Dr Thérèse Coffey oedd y penodiad cyntaf. Hi fydd Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol San Steffan. Hi hefyd fydd y Dirprwy Brif Weinidog, yn ôl datganiad o Rif 10, Downing Street. 

Kwasi Kwarteng sydd wedi ei benodi'n Ganghellor y Trysorlys.  

James Cleverly fydd yn ymgymryd â dyletswyddau blaenorol Liz Truss, wrth gael ei benodi'n Ysgrifennydd Tramor.  

Suella Braverman a ymgeisiodd yn erbyn Liz Truss yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol yw'r Ysgrifennydd Cartref, a Wendy Morton yw'r Prif Chwip.

Mae Ben Wallace wedi ei ail benodi'n Ysgrifennydd Amddiffyn, a Brandon Lewis yw'r Ysgrifennydd Cyfiawnder newydd.

Nadhim Zahawi yw'r Canghellor Dugiaeth Lancaster.

Penny Mordaunt, ddaeth yn agos at gyrraedd safle'r ddau olaf y ras am yr arweinyddiaeth sydd wedi ei phenodi yn Arweinydd Tŷ'r Cyffredin.

Mae'r Arglwydd True wedi ei apwyntio'n Arweinydd Tŷ'r Arglwyddi a James Berry yw'r Gweinidog heb bortffolio.

Bydd Alok Sharma yn parhau yn ei rôl fel Arlywydd COP 26 ac mae Jacob Rees-Mogg wedi cael ei apwyntio'n Ysgrifennydd Busnes.

Simon Clarke sydd wedi cael ei benodi'n Ysgrifenydd Codi'r Gwastad - neu Levelling Up.

Un o'r pedwar olaf yn y ras arweinyddiaeth, Kemi Badenoch, sydd wedi ei phenodi'n Ysgrifennydd Masnach Rhyngwladol. 

Chloe Smith yw'r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiwn.

Yn dilyn penodiad James Cleverly fel Ysgrifennydd Trmor, Kit Malthouse sydd wedi ei benodi'n Ysgrifennydd Addysg newydd.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.