Newyddion S4C

Cymru angen pwynt yn erbyn Slofenia i gyrraedd gemau ail-gyfle Cwpan y Byd

Cymru angen pwynt yn erbyn Slofenia i gyrraedd gemau ail-gyfle Cwpan y Byd

NS4C 06/09/2022

Dim ond gêm gyfartal sydd angen ar fenywod Cymru yn erbyn Slofenia nos Fawrth er mwyn cyrraedd gemau ail-gyfle Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed. 

Bydd Cymru yn chwarae o flaen torf o fwy na 12,000 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, y dorf fwyaf mae'r tîm menywod erioed wedi chwarae o'i flaen.

Bydd menywod Gemma Grainger yn llawn hyder cyn y gêm hanesyddol, wedi iddynt drechu Groeg wythnos diwethaf. 

Er nad oedd y perfformiad y gorau, y canlyniad oedd yn bwysig wrth i Gymru ennill 1-0.

Carrie James sicrhaodd y fuddugoliaeth yn Volos wrth iddi sgorio'i gôl gyntaf dros ei gwlad.

Un fydd yn awyddus i gael gêm dda i Gymru y tro yma yw Angharad James, a fydd yn ennill ei chanfed cap. 

Chwaraeodd hi ei gêm gyntaf 11 mlynedd yn ôl.

​​​​​​Er mae'r cyfan sydd rhaid i Gymru wneud yw osgoi colli, maent yn gwybod y bydd Slofenia yn wrthwynebwyr caled. 

Gêm gyfartal oedd y canlyniad pan chwaraeodd y ddau dîm ym mis Hydref y llynedd gyda gôl Kayleigh Green yn sicrhau pwynt i Gymru.

Os fydd Cymru yn cyrraedd y gemau ail-gyfle, bydd eu gemau nesaf yn cael eu chwarae yn Yr Alban neu Awstralia ym mis Chwefror 2023.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.