Newyddion S4C

S4C

Elin Fflur yn cyhoeddi ei bod yn feichiog

NS4C 05/09/2022

Mae’r gantores a'r gyflwynwraig Elin Fflur wedi cyhoeddi ei bod yn feichiog.

Mewn clip rhagolwg o’r rhaglen 'Sgwrs Dan y Lloer' mae Elin Fflur yn datgelu ei bod yn feichiog wedi iddi “fod drwy IVF am 10 mlynedd.”

Daw’r cyhoeddiad wedi i’r actores Bethan Ellis Owen ddatgelu ei bod hi’n feichiog ar ôl derbyn rhoddwr wy mewn cyfweliad agored ag Elin Fflur.

Mewn ymateb i’r newyddion dywedodd Elin Fflur: “Dwi jyst mor falch bod o ‘di gweithio i chi a dwi’n eistedd fa’ma rŵan ac wedi bod trwy IVF am 10 mlynedd, ac mae ‘di gweithio i ni erbyn hyn.”

Yn 2018, fe wnaeth Elin Fflur rannu ei siwrne o geisio am fabi drwy IVF gyda gwylwyr S4C mewn rhaglen ddogfen arbennig, ‘Chdi, FI, ac IVF’.

Fe olygodd y rhaglen bod sgwrs fwy agored wedi bod am IVF yng Nghymru.

Bydd 'Sgwrs Dan y Lloer' gydag Elin Fflur a Bethan Ellis Owen i’w gweld ar S4C nos Lun am 20:00.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.