Newyddion S4C

S4C

10 o bobl wedi’u trywanu’n farw yn Canada

NS4C 05/09/2022

Mae o leiaf 10 o bobl wedi’u trywanu’n farw a 15 arall wedi’u hanafu  yn nhalaith Saskatchewan yng Nghanada, meddai’r heddlu.

Cafodd yr alwad frys gyntaf ei gwneud i'r heddlu am 05:40 fore Sul ym mhrifddinas y dalaith Regina, tua 280km (173 milltir) i'r de o Weldon. 

Roedd y rhai gafodd eu lladd wedi eu canfod mewn 13 lleoliad gwahanol yng nghymuned James Smith Cree Nation a phentref cyfagos Weldon.

Mae’r heddlu yn chwilio am ddau berson, Damien Sanderson a Myles Sanderson. Mae’r ddau gydag arfau yn eu meddiant ac yn cael ei ystyried yn beryglus.

Image
S4C
Mae'r heddlu yn chwilio am Damien Sanderson (chwith) a Myles Sanderson (dde) yn sgil yr ymosodiad

Mae’r heddlu wedi dweud wrth drigolion am aros mewn lle diogel wrth i helfa enfawr barhau i geisio dod o hyd i’r ddau ddyn. 

"Peidiwch â gadael lleoliad diogel. Byddwch yn ofalus wrth ganiatáu i eraill ddod i mewn i'ch cartref," meddai Heddlu Saskatchewan Canada.

Mae cyflwr o argyfwng wedi’i ddatgan o fewn y gymuned, sydd yn un frodorol, i’r gogledd-ddwyrain o Weldon, lle mae tua 200 o bobl yn byw.

Mae rhybudd person peryglus wedi ei anfon i bob ffôn symudol ar draws taleithiau Saskatchewan, Manitoba ac Alberta. 

Dyma un o'r gweithredoedd mwyaf marwol o drais torfol a welodd Canada erioed.

Fe ddisgrifiodd Prif Weinidog Canada, Justin Trudeau, yr ymosodiad fel un “erchyll a thorcalonnus”.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.