Newyddion S4C

Liz Truss

Liz Truss: ‘Rwy’n barod i weithredu ar filiau ynni’

The Independent 04/09/2022

Mae Liz Truss wedi addo cefnogi teuluoedd wrth iddynt wynebu cynnydd mewn costau byw mewn “dwy ffordd’ os gaiff ei hethol yn arweinydd y Ceidwadwyr a phrif weinidog nesaf y DU.

Dywedodd ei bod yn barod i wneud “penderfyniadau anodd”  a “gweithredu ar unwaith” i roi cymorth i’r rhai mwyaf bregus wrth i filiau ynni gynyddu'r gaeaf hwn.

Fe fydd Ms Truss a Rishi Sunak yn darganfod ddydd Llun pwy fydd yn arwain y blaid Geidwladol ac yn dod yn brif weinidog y DU.

Dywedodd Ms Truss y byddai’n penodi cyngor o ymgynghorwyr economaidd yn yr wythnos gyntaf os caiff ei dewis i arwain y wlad.

Darllenwch fwy yma.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.