Newyddion S4C

jonathan edwards

Jonathan Edwards 'wedi gwneud camsyniad enfawr yn ymddiried yn rheolau Plaid Cymru'

NS4C 02/09/2022

Mae Jonathan Edwards AS wedi dweud ei fod wedi "gwneud camsyniad enfawr yn ymddiried yn rheolau Plaid Cymru".

Cafodd yr AS dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ei wahardd ar ôl derbyn rhybudd gan yr heddlu am ymosod, a hynny yn dilyn digwyddiad yn y cartref teuluol.

Fe adawodd Mr Edwards grŵp Plaid Cymru yn San Steffan ym mis Awst ar ôl cael ail-ymuno'n wreiddiol.

Mae Jonathan Edwards wedi cynrychioli'r etholaeth yn Nhŷ’r Cyffredin ers 2010.

Mewn neges ar ei dudalen Facebook ddydd Gwener, dywedodd ei fod wedi gwneud "camsyniad enfawr yn ymddiried yn rheolau a phrosesau Plaid Cymru pan nid oedd unrhyw bwriad gyda fy ngwrthwynebwyr o fewn y Blaid eu parchu."

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Blaid Cymru am ymateb.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.