Newyddion S4C

Merched Cymru yn herio Groeg mewn gêm allweddol

Merched Cymru yn herio Groeg mewn gêm allweddol

NS4C 02/09/2022

Bydd merched Cymru yn herio Groeg mewn gêm allweddol wrth iddynt geisio sicrhau lle yn gemau ail-gyfle Cwpan y Byd.

Mae Cymru yn ail yng ngrŵp I ar 16 pwynt ar ôl wyth gêm, dau bwynt uwchben Slofenia sydd yn drydydd.

Bydd Cymru yn chwarae Slofenia ar 6 Medi, ac os ydynt yn curo Groeg yn Volos, bydd ond angen pwynt ar Gymru yn erbyn Slofenia i sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle.

Enillodd Cymru'n gyfforddus yn erbyn Groeg ym mis Tachwedd y llynedd gyda goliau gan Sophie Ingle, Kayleigh Green, Natasha Harding a dwy gan Ceri Holland yn sicrhau buddugoliaeth 5-0 ar Barc y Scarlets.

Collodd Gymru 2-1 yn erbyn Ffrainc a churo Kazakstan 3-0 yn eu gemau diwethaf ym mis Ebrill, ond bydd y garfan yn llawn hyder am y ddwy gêm olaf gyda'r cyfle i greu hanes.

Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru cyrraedd y gemau ail-gyfle, os ydynt yn sicrhau pedwar pwynt yn eu dwy gêm olaf.

Fe fydd Cymru yn gobeithio y gall ei chwaraewyr profiadol fel Sophie Ingle, Jess Fishlock a Natasha Harding ddod â nhw gam yn agosach at eu pencampwriaeth Cwpan y Byd gyntaf erioed.

Ond bydd hefyd cyfle i weld gwynebau newydd wrth i Safia Middleton-Patel a Morgan Rogers gael eu cynnwys am y tro cyntaf.

Bydd y gêm yn cael ei chwarae am 18:00 nos Wener.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.