Newyddion S4C

Car Tywysoges Diana

Car ‘unigryw’ Tywysoges Diana wedi gwerthu mewn ocsiwn am £650,000

ITV News 27/08/2022

Mae car “unigryw” oedd yn berchen i'r Dywysoges Diana wedi gwerthu mewn ocsiwn ddydd Sadwrn am £650,000.

Roedd disgwyl i‘r Ford Escort du, oedd yn cael ei yrru gan y dywysoges yn yr 1980au, fynd am tua £100,000 cyn yr ocsiwn.

Dyma’r unig fersiwn o’r car RS Turbo Series 1 gafodd ei wneud mewn du, yn ôl Silverstone Auctions.

Dywedodd yr ocsiynwyr fod y math o gar fel arfer yn wyn ond roedd y teulu brenhinol wedi gofyn am un du "ar gyfer disgresiwn.” 

Darllenwch fwy yma.

Llun: Silverstone Auctions

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.