Newyddion S4C

merched Cymru

Cyhoeddi carfan merched Cymru fydd yn herio Groeg a Slofenia

NS4C 25/08/2022

Mae Gemma Grainger wedi cyhoeddi carfan merched Cymru fydd yn herio Groeg a Slofenia mewn gemau hollbwysig yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2023.

Bydd pedwar pwynt o'r ddwy gêm yn ddigon i Gymru sicrhau lle yng ngemau ail-gyfle am y tro cyntaf erioed.

Groeg bydd y gêm gyntaf wrth i Gymru deithio i Volos ar gyfer y gêm ar 2 Medi, cyn y gêm olaf yn erbyn Slofenia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 6 Medi. 

Bydd o leiaf 8,500 o dorf yn Stadiwm Dinas Caerdydd, record ar gyfer gêm merched Cymru. 

Ond, bydd Grainger a'r tîm yn gobeithio bydd dros 10,000 o’r Wâl Goch yn y gêm ac yn chwarae rhan allweddol wrth i Gymru geisio creu hanes.

Fe fydd Cymru yn gobeithio y gall ei chwaraewyr profiadol fel Sophie Ingle, Jess Fishlock a Natasha Harding ddod â nhw gam yn agosach at ei Chwpan y Byd cyntaf erioed.

Ond mae yna hefyd le yn y garfan i wynebau newyddi, wrth i Safia Middleton-Patel a Morgan Rogers gael eu cynnwys am y tro cyntaf.

Y garfan: Laura O’Sullivan, Olivia Clark, Safia Middleton-Patel, Rhiannon Roberts, Josie Green, Hayley Ladd, Gemma Evans, Rachel Rowe, Lily Woodham, Sophie Ingle, Anna Filbey, Angharad James, Georgia Walters, Charlie Estcourt, Jess Fishlock, Carrie Jones, Ffion Morgan, Megan Wynne, Elise Hughes, Kayleigh Green, Helen Ward, Natasha Harding, Ceri Holland, Maria Francis-Jones, Chloe Williams, Morgan Rogers.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.