‘Pandemig o drais yn erbyn menywod yn cael ei wthio ar-lein’

Mae’r “pandemig o drais yn erbyn menywod a merched” yn cael ei wthio ar-lein, yn ôl llefarydd diogelwch ar-lein y Blaid Lafur yn San Steffan.
Mae’r Aelod Seneddol dros Bontypridd, Alex Davies-Jones, wedi rhybuddio fod athrawon yn delio gyda mwy a mwy o achosion o fisogynistiaeth, bwlio ac aflonyddu yn erbyn merched ar-lein bob dydd.
Mae Ms Davies-Jones yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd ymhellach gyda’r Bil Diogelwch Ar-lein a gwneud trais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth ynddi.
Trwy hynny, bydd rhaid i gwmnïau gweithredu yn erbyn unrhyw un sy’n torri amodau a thelerau’r cyfryngau cymdeithasol o ran misogynistiaeth a thrais yn erbyn menywod.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi strategaeth i geisio mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, sy’n cynnwys pecyn cymorth i ran-ddeiliaid sicrhau fod y strategaeth yn cael ei gweithredu.
Darllewnch ragor yma.