Newyddion S4C

S4C

Myfyrwraig nyrsio yn 'fyw ac yn iach' ar ôl bod ar goll

Sky News 23/08/2022

Mae’r fyfyrwraig nyrsio Owami Davies wedi cael ei darganfod yn fyw ac yn iach, meddai Heddlu’r Met. 

Roedd pump o bobol wedi’u harestio mewn cysylltiad â’i diflaniad, ond fe ddaethpwyd o hyd i’r ddynes 24 oed o Essex yn Hampshire.

Daeth yr heddlu o hyd iddi yn dilyn galwad gan aelod o'r cyhoedd am 10.30am ddydd Mawrth oedd wedi ei gweld. 

Roedd 118 o adroddiadau yn honni ei bod wedi cael ei gweld dros y cyfnod.

Wrth siarad brynhawn Mawrth, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Nigel Penney fod Ms Davies yn iach.

“Dyma’n amlwg y canlyniad yr oeddem yn obeithiol amdano,” meddai. 

Cafodd Ms Davies ei gweld diwethaf ar deledu cylch cyfyng yn Croydon ar Gorffennaf 7.

Dywedodd heddlu'r Met eu bod nawr yn adolygu eu hymchwiliad ar y cyd â Heddlu Essex 

Rhagor yma. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.