Cyfarwyddwr Ofgem yn ymddiswyddo oherwydd costau ynni
Mae un o gyfarwyddwyr rheoleiddiwr y diwydiant ynni, Ofgem wedi ymddiswyddo gan ddweud na all gefnogi'r penderfyniad i ychwanegu cannoedd o bunnoedd i filiau ynni teuluoedd.
Yn ôl, Christine Farnish, mae hi wedi rhoi'r gorau i'w swydd am nad yw'n credu fod OFGEM "wedi cael y cydbwysedd cywir rhwng anghenion defnyddwyr ac anghenion cyflenwyr "
Yn ôl adroddiadau, mae ei hymddiswyddiad yn gysylltiedig â phenderfyniad Ofgem i newid methodoleg y cap ar brisiau.
Dywedodd llefarydd ar ran Ofgem : “Rydym yn diolch i Christine am flynyddoedd o wasanaeth ymroeddedig i Ofgem."
Mae disgwyl i filiau godi i £4,266 y flwyddyn ar gyfartaledd, fis Ionawr nesaf, wrth i brisiau ynni gynyddu yn sylweddol.
Darllenwch ragor yma