Newyddion S4C

Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn dychwelyd i ddathlu 20 mlynedd

18/08/2022
Y Dyn Gwyrdd

Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn dychwelyd eto eleni i Grughywel ym Mhowys.

Mae’n un o ŵyliau cerddorol, celfyddydol mwyaf Cymru ac yn dathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau gan berfformwyr adnabyddus o Gymru, yn eu plith Adwaith, Papur Wal, Candelas a Cerys Hafana.

Fel arfer mae gan y digwyddiad ym Mharc Glan Wysg le i 60,000 o bobl ac yn ôl y trefnwyr, mae'n cyfrannu tua £15m tuag at economi Cymru bob blwyddyn.

Mae prif ddiwyddiadau Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn cael eu cynnal rhwng 18 a 21 o Awst. Ymhlith y prif artistiaid, mae Michael Kiwanuka a Kraftwerk. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.