Newyddion S4C

Achos Ryan Giggs: Cyn-reolwr Cymru yn crio wrth ddisgrifio noson ei arestio

Sky News 17/08/2022
S4C

Wrth roi tystiolaeth yn Llys Y Goron Manceinion brynhawn Mercher, dechreuodd Ryan Giggs grio wrth ddisgrifio'r adeg pan gyrhaeddodd plismyn ei gartref, fis Tachwedd 2020 . 

"Roedd gen i ofn," meddai  

"Doeddwn i erioed wedi bod yn y sefyllfa honno o'r blaen"

Eglurodd cyn reolwr Tîm Pêl-droed Cymru iddo gael ei gludo i orsaf heddlu Pendleton lle treuliodd y noson mewn cell.  

"Dyna oedd profiad gwaetha fy mywyd," ychwanegodd cyn dechrau crio yn y llys. 

Mae Ryan Giggs yn gwadu iddo ymosod ar ei gyn-gariad, Kate Greville, a'i chwaer, Emma. Mae e hefyd yn gwadu cyhuddiad o reoli Kate Greville trwy orfodaeth. 

Dywedodd Mr Giggs ei fod wedi derbyn 'camdriniaeth' yn ystod ei yrfa fel pêl-droediwr, ond na wnaeth erioed ymateb yn dreisgar.

Dywedodd hefyd iddo dderbyn cerdyn coch unwaith yn unig yn ystod ei yrfa o dros 1,000 o gemau proffesiynol.

Clywodd y llys bod Mr Giggs hefyd yn gwadu taflu bag gliniadur ar Ms Greville yn ystod ffrae.

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Mr Giggs ei fod wedi taflu bag Louis Vuitton at gyfeiriad y gwely, ond mae'n gwadu taflu unrhyw beth at Ms Greville.

Ychwanegodd Mr Giggs ei fod wedi galw Ms Greville yn enw ei gyn-wraig, Stacey, ond mai damwain oedd hyn. 

Dywedodd ei fod yn "flin" ac yn "drist" pan anfonodd e-bost at Ms Greville gyda rhegfeydd ynddo. 

"Dydw i ddim yn gallu credu y byddwn i wedi defnyddio'r math yma o iaith i rywun yr oeddwn i'n caru," meddai. 

Ychwanegodd Mr Giggs ei fod wedi bod yn "gefnogol iawn" o Ms Greville pan wnaeth hi benderfynu dechrau ei busnes cysylltiadau cyhoeddus ei hun yn 2020. 

Dywedodd ei fod wedi bod yn rhan o gynlluniau i helpu Ms Greville i sicrhau gwaith gyda chwmnïau yn sgil ei gysylltiadau. 

Clywodd y llys bod Ms Greville wedi cyhuddo Mr Giggs o fod yn anffyddlon sawl gwaith. 

Mae'r achos yn parhau. 

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.